Lle a Pham?
Bydd gwaith atgyweiriadau concrid yn cael ei gynnal ar Drosbont Dwyrain a Gorllewin Aberdulais yr A465.
Gwyriadau a Mesurau Diogelwch
Bydd angen cau'r ffordd yn llwyr ar ddechrau a diwedd y gwaith i osod/tynnu'r 'vario-guard' a chau lonydd i gwblhau'r gwaith. Llwybr y gwyriad pan fo'r ffordd ar gau fydd gadael y gerbydlon yn y ffyrdd slip ymadael gan ail-ymuno â'r gerbydlon yn y ffyrdd slip ymuno.
Rhaglen cyfyngiadau rheoli traffig
- 09/01/2021 – Ffordd ar gau tua'r Dwyrain rhwng lonydd ymuno ac ymadael 20:00 – 06:00.
- 11/01/2021 – Lôn 1 tua'r Dwyrain ar gau am 5 wythnos.
**Noder, gallai'r rhaglen waith newid.
Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG.