Lle a Pham?
Gwaith i gryfhau'r wal gynnal bresennol sy'n cynnal yr A5 rhwng y gyffordd gyda Birch Hill ym mhen dwyreiniol Tref Llangollen a Thy'n-y-Wern.
Cafodd y wal bresennol ei chryfhau dros dro yn 2015, ond daeth oes y gwaith yma i ben ac mae angen ei hatgyfnerthu drwy ddefnyddio system angor craig parhaol gyda oes o 120 o flynyddoedd. Mae'r mur presennol yn is-safonol o ran uchder a chryfder a bydd yn cael ei uwchraddio ar yr un pryd.
Ar ôl cwblhau'r gwaith ar y wal gynnal a'r mur, bydd y gerbydlon yn cael ei hail-wynebu gan gau'r ffordd dros nos. Bydd arwyneb newydd y ffordd yn atal dŵr wyneb rhag treiddio gan wella cyfanrwydd y wal gynnal.
Gwyriadau a Mesurau Diogelwch
Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, adeg pan fo'r llif traffig yn is yn hanesyddol, i leihau'r aflonyddwch.
Caiff y ffordd ei chau yn llwyr dros nos, gan ddechrau ar 4 Ionawr am 20.00 i osod rhwystr diogelwch dros dro fydd yn amddiffyn y gweithlu ac yn caniatáu i draffig fynd heibio'r gwaith ar y cyflymder a ganiateir, sef 40 mya.
O 5 Ionawr 2021 tan 22 Mawrth 2021 bydd un lôn o'r gerbydlon yn cael ei chau dros hyd o tua 400m gan reoli traffig drwy ddefnyddio signalau traffig dros dro. Yn ystod y cyfnod yma bydd y ffordd yn cael ei chau ddwywaith dros nos i osod ac adleoli'r rhwystr diogelwch.
Bwriedir cau'r ffordd dros nos i dynnu'r rhwystr diogelwch ac i ail-wynebu'r gerbydlon gan ddechrau ar 22 Mawrth 2021 am 6 noson.
Bydd llwybr y gwyriad pan fydd y ffordd ar gau dros nos yn mynd drwy Langollen - A539 - Rhiwabon - A483 - A5.
Bydd troedffordd bresennol ar ochr yr A5 yn cael ei chau ger cyffordd Birch Hill. Bydd cerddwyr yn cael eu dargyfeirio drwy Birch Hill.
Rhaglen cyfyngiad rheoli traffig.
Manylion y Cyfyngiadau |
|||
Cau'r A5 yn lllwyr rhwng Birch Hill a Ffordd MaesMawr. Bydd Traffig yn cael ei wyro drwy Llangollen - A539 - Rhiwabon - A483 - A5 |
20:00 04/01/21 | 16:00 05/01/21 |
Gosod Rhwystrau dros dro ac adleoli. |
Cau'r A5 yn lllwyr rhwng Birch Hill a Ffordd MaesMawr. Bydd Traffig yn cael ei wyro drwy Llangollen - A539 - Rhiwabon - A483 - A5 |
20:00 25/06/21 |
06:00 26/02/21 |
Gosod Rhwystrau dros dro ac adleoli. |
Cau'r A5 yn lllwyr rhwng Birch Hill a Ffordd MaesMawr. Bydd Traffig yn cael ei wyro drwy Llangollen - A539 - Rhiwabon - A483 - A5
|
20:00 08/03/21 |
06:00 09/03/21 |
Gosod Rhwystrau dros dro ac adleoli. |
Cau'r A5 yn lllwyr rhwng Birch Hill a Ffordd MaesMawr. Bydd Traffig yn cael ei wyro drwy Llangollen - A539 - Rhiwabon - A483 - A5 |
20:00 22/03/21 |
20:00 28/03/21 |
Cau dros nos yn unig o 20:00 - 06:00 bob nos. |
Traffig llwybr sengl yn defnyddio signalau traffig dros dro o'r dwyrain i'r gyffordd gyda Birch Hill i Dy'n-y_wern (tua 400m). Culhau lled y Lon i 3.25m |
06:00 05/01/21 |
20:00 22/03/21 |
Cryfhau'r wal gynnal ac uwchraddio'r mur. |
**mae'r dyddiadau yn rhai amodol, gallai newid.
Ymholiadau
Am rhagor o wybodaeth, cysyllwch a Traffig Cymru ae 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG