Beth ddylech chi ei wneud?
Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4. Beth sydd angen ichi wneud ar lefel rhybudd 4.
Darllenwch y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yma.
Os ydych chi'n mynd ar daith hanfodol, sicrhewch fod eich cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd a gyrrwch yn ofalus
Rhaid i chi sicrhau fod eich cerbyd yn ddiogel i yrru cyn cychwyn ar daith hanfodol.
Dylech gynnal gwiriad o'r cerbyd cyn eich taith a gwirio'r canlynol:
• goleuadau
• teiars
• gosodiadau olwyn
• gwaith corff
• cyplu trelars
• llwyth ac offer arall
Mae hyn hefyd yn berthnasol i berchenogion carafannau. Os ydych chi'n ystyried tynnu carafán, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich trwydded, a yw pwysau tynnu eich cerbyd yn ddigonol ac os oes unrhyw offer ychwanegol y gallai fod angen i chi brynu i dynnu eich carafan yn ddiogel.
Mae ein ffyrdd yn hanfodol ar gyfer cludo gweithwyr allweddol, dosbarthu nwyddau ac ar gyfer y gwasanaethau brys. Mae'r Swyddogion Traffig a Staff yr Ystafell Rheoli yn gweithio'n anhygoel o galed, 365 diwrnod y flwyddyn, i sicrhau fod y rhwydwaith yn ddiogel i'w ddefnyddio. Helpwch nhw yn ystod yr adeg ddigynsail yma trwy leihau'r siawns fydd eich cerbyd yn torri i lawr wrth fynd allan ar y ffordd a gyrrwch mewn modd cyfrifol i sicrhau eu bod yn canolbwyntio adnoddau lle maent eu hangen fwyaf.
Cyngor ar rannu car
Ni ddylech teithio mewn cerbyd gyda unrhyw berson sydd ddim yn rhan o'ch cartref. Dilynwch y canllawiau cyffredinol isod. Gweler canllawiau llawn Llywodraeth Cymru ar deithio'n ddiogel.
Cynlluniwch eich llwybr, gan gynnwys unrhyw seibiannau, cyn cychwyn ar eich taith. Gall llwybrau fod yn wahanol wrth i ardaloedd lleol wneud newidiadau er mwyn galluogi pobl i gadw pellter corfforol ar balmentydd a llwybrau beicio.
Os byddwch fel arfer yn rhannu cerbyd â phobl o aelwydydd eraill, rydym yn argymell y dylech ddod o hyd i ffordd wahanol o deithio. Er enghraifft, dylech ystyried cerdded neu feicio os oes modd. Mae hyn yn golygu nad yw trefniadau rhannu ceir na threfniadau eraill i rannu cerbydau â phobl nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd neu aelwyd estynedig er mwyn teithio i'r gwaith os na allwch weithio gartref yn cael eu hargymell ar hyn o bryd oherwydd byddai'n anodd cadw at y rheolau a chadw pellter corfforol.
- Gall awyru da (cadw ffenestri'r car ar agor) a wynebu i ffwrdd oddi wrth eich gilydd helpu i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.
- Byddwch yn ymwybodol o'r arwynebau y byddwch chi neu bobl eraill yn cyffwrdd â nhw. Cadwch fannau fel y llyw a dolenni drysau yn lân.
- Os byddwch yn dod o fewn 2 fetr i bobl eraill, dylech osgoi cyswllt corfforol, ceisio peidio â wynebu pobl eraill, a threulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill.
Os byddwch yn gyrru, dylech ragweld mwy o gerddwyr a beicwyr na'r arfer, yn enwedig ar adegau prysur o'r dydd. Caniatewch i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd gadw pellter corfforol. Er enghraifft, rhowch ddigon o le i feicwyr gadw 2 fetr o bellter wrth oleuadau traffig.
Treuliwch gyn lleied o amser â phosibl mewn garejis, gorsafoedd petrol a gwasanaethau traffordd. Cadw bellter o 2 fetr i ffwrdd oddi wrth eraill a defnyddiwch ddulliau talu digyffwrdd os oes modd. Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael.
Wrth ichi orffen eich taith, rydym yn argymell y dylech wneud y canlynol:
- dilyn y canllawiau lleol
- golchi eich dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn gynted â phosibl