Skip to main content
Llinell wybodaeth Traffig Cymru 0300 123 1213

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg | We welcome calls in Welsh

Cysylltu â ni
Gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.

Gyrru mewn tywydd garw

Car wedi rhewi

 

Dyma gyngor gennym i’ch helpu chi i baratoi at y gaeaf.

 

Mae yna gynnydd uchel yn nifer y cerbydau sy’n torri i lawr pan fo’r tywydd yn oeri, felly mae’n werth cymryd yr amser i gynnal y gwiriadau iawn ar eich cerbyd.

Gall unrhyw broblemau peiriannol gyda’ch cerbyd waethygu wrth i’r tymereddau oeri. Gall y rhestr isod fod o gymorth i’ch atgoffa o beth i’w wirio cyn eich taith:

Tanwydd / Trydan – A oes gennych ddigon o betrol, disel neu, os ydych yn defnyddio cerbyd trydanol, wefr?

Olew – mae’n well cymryd golwg sydyn.

Dŵr – gwirio hylif glanhau a’r oerydd.

Difrod – Golwg sydyn dros y tu allan i gyd i sicrhau bod pethau’n iawn.

Trydan – A ydy’r holl oleuadau a botymau yn gweithio fel y dylent?

Rwber – Gwirio bod eich teiars mewn ansawdd sy’n gyfreithlon ac yn addas i’r ffordd. Eich teiars yw’r unig gyswllt sydd gan eich cerbyd â wyneb y ffordd er mwyn gallu stopio mewn digon o amser.

Cadw offer Gaeaf yn barod

Mae’n werth cadw cyflenwad o offer gaeaf hanfodol os ydych yn debygol o deithio mewn tywydd gwael iawn.

Dyma rai o’r pethau rydym yn eu hargymell:

•        Dŵr glân

•        Hylif dadrewi

•        Bwyd gyda chynnwys egni uchel

•        Dillad cynnes ychwanegol

•        Crafwyr rhew

•        Ffôn symudol gyda phlwg i’ch car

•        Fflach lamp

•        Blancedi

•        Bŵts

•        Rhaw

•        Sbectol haul

Os ewch â’r offer yma efo chi gall eich helpu’n fawr petai’r car yn torri i lawr neu mewn argyfwng.

Beth i’w wneud cyn storm:

Mae’n bwysig cynllunio ac astudio eich taith cyn cychwyn. Os oes gennych y dewis, defnyddiwch y ffordd fwyaf cysgodol sydd â llai o fannau sy’n agored i’r tywydd. Cofiwch adael i bobl wybod eich bod yn teithio rhag ofn i chi fynd yn sownd heb ffordd o ddefnyddio ffôn symudol.

Beth i’w wneud yn ystod storm:

Os yn bosib, mae’n fwy diogel defnyddio prif ffyrdd lle mae’n llai tebygol y dewch o hyd i goed, malurion neu lifogydd ar y ffordd. Os yw gwelededd ar y lôn yn lleihau’n ddifrifol, defnyddiwch eich golau ‘dip’. Gall hyrddiau o wynt wthio cerbyd – ar adegau fel hyn mae’n hanfodol eich bod yn gafael yn dynn yn y llyw gyda dwy law. Mae hyn yn hynod o bwysig os ydych yn bwriadu pasio cerbyd sydd o’ch blaen.

Wrth yrru, cadw olwg allan am fylchau rhwng coed, adeiladau, neu bontydd dros afon neu reilffordd; dyma’r llefydd y byddwch fwyaf tebygol o brofi gwyntoedd o’r ochr.

Sicrhewch eich bod yn cadw digon o le bob ochr i’ch cerbyd rhag ofn iddo gael ei chwythu i’r ochr. Bydd ffyrdd yn fwy llithrig nag arfer mewn tywydd gwlyb – gadewch fwy o amser i ymateb i beryglon trwy arafu.

Mae’n hanfodol eich bod yn cynyddu’r pellter rhyngoch a’r cerbyd o’ch blaen fel eich bod o leiaf bedair eiliad tu ôl. Cadwch eich llygaid ar y lôn bob amser oherwydd gall dŵr sy’n tasgu o gerbydau eraill leihau eich gwelededd yn sylweddol. Cofiwch fod hyn yn effeithio ar yrwyr eraill hefyd, felly byddwch yn barod a cheisiwch ragweld sut y byddant yn ymateb.

Beth i’w wneud cyn gwyntoedd cryfion:

Pan fo’r gwynt yn codi, dylech gadw cyflenwad o offer yn eich cerbyd cyn gadael eich cartref rhag ofn i’r tywydd garw darfu ar eich taith. Cofiwch ddillad cynnes, bwyd a dŵr glan.

Os oes rhaid i chi deithio, gwrandewch ar ddiweddariadau radio lleol, ac ewch i’n tudalen Twitter i gael gwybod am unrhyw ffyrdd sydd wedi cau. Y peth olaf rydych eisiau yw cael eich dal mewn ciw o draffig oherwydd bod ffordd ar gau y gallech fod wedi’i hosgoi.

Mae’n bwysig cynllunio ac astudio eich taith cyn cychwyn. Os oes gennych y dewis, defnyddiwch y ffordd fwyaf cysgodol sydd â llai o fannau sy’n agored i’r tywydd. Cofiwch adael i bobl wybod eich bod yn teithio rhag ofn i chi fynd yn sownd heb ffordd o ddefnyddio ffôn symudol.

Beth i’w wneud yn ystod gwyntoedd cryfion:

Wrth yrru mewn tywydd garw dylech o hyd arafu, a byth goryrru. Gall gwynt cryf chwythu o dan eich cerbyd a’i gwneud yn llawer mwy anodd i’w reoli a brecio – gall hyn ddigwydd yn sydyn heb rybudd. Bydd arafu yn eich helpu i fod yn barod am unrhyw wynt sy'n ddigon cryf i effeithio ar eich cerbyd.

Byddwch yn barod am wyntoedd sydyn o’r ochr wrth fynd tuag at fannau agored neu ar bontydd.

Beth i’w wneud cyn glaw trwm     

Os ydych yn meddwl mynd allan yn ystod glaw trwm, gwrandewch ar ddiweddariadau radio lleol, ac ewch i’n tudalen Twitter i gael gwybod am unrhyw ffyrdd sydd wedi cau.

Sicrhewch fod gwadn eich teiars yn ddigon dwfn a bod y pwysedd aer yn y teiars yn addas er mwyn osgoi llithro ar ddŵr (aquaplaning). Gall haen denau o ddŵr rhwng wyneb y ffordd a theiar heb wadn olygu bod y teiar yn colli gafael ar y ffordd ac wedyn, y car yn colli rheolaeth. Gall hyn fod yn brofiad ofnus a pheryglus iawn i yrwyr.

Mae angen i’ch weipars fod yn gweithio’n iawn er mwyn gallu glanhau eich sgrin yn effeithiol, cofiwch eu gwirio cyn cychwyn. Hefyd, mae’n werth gwirio bod eich golau yn gweithio’n iawn er mwyn gadael i yrwyr eraill eich gweld yn y glaw.

Beth i’w wneud yn ystod glaw trwm:

Cadwch lygad ar eich cyflymder bob tro mewn tywydd garw, a gadewch ddigon o le rhyngoch a’r cerbyd o’ch blaen. Y cyngor yw bwlch o bedair eiliad o leiaf. Hyd yn oed os ydych yn defnyddio teiars glaw, bydd eich pellter stopio yn bellach nag ar ffordd sych.

Os byddwch yn sylwi bod rhywun yn teithio’n rhy agos i chi, gadewch iddynt fynd heibio. Mae’n well iddynt fod o’ch blaen nag y tu ôl i chi. Rhowch eich golau ymlaen, ond cadwch hwy ar ‘dip’ a pheidiwch â defnyddio golau niwl.

Byddwch yn ymwybodol o ddŵr yn tasgu oddi ar lorïau a cherbydau cyflym eraill, gall hyn leihau eich gwelededd, a byddwch yn ymwybodol hefyd o’r dŵr sy’n tasgu oddi ar eich car chi. Peidiwch â gyrru’n gyflym trwy byllau dŵr heibio i gerddwyr a beicwyr.

Mae nifer y cerbydau sy’n torri i lawr yn cynyddu yn y glaw wrth i ddŵr hidlo i mewn i’r peiriant a rhannau trydanol. Os byddwch yn torri i lawr, cadwch eich boned ar gau i osgoi unrhyw ddifrod pellach gan ddŵr glaw. Peidiwch â thrio ailgychwyn eich injan ar ôl iddo dorri allan wrth yrru trwy ddŵr dyfn.

Beth i’w wneud cyn rhew ac eira:

Car mewn eira

Os oes rhaid i chi yrru mewn amodau rhewllyd, gadewch fwy o amser nag arfer i deithio. Cyn cychwyn, sicrhewch fod eich ffenestri, drychau, golau a’r to yn glir o rew neu eira. Mae gyrru gydag eira ar eich cerbyd yn anghyfreithlon, ac yn beryg bywyd i ddefnyddwyr y ffordd o’ch cwmpas. 

Bydd angen i chi hefyd ddadrewi eich sgrin – a chymryd yr amser i glirio tu mewn y sgrin, gan ei bod yn anghyfreithlon gyrru heb allu gweld yn gwbl glir drwy’r holl ffenestri.  

Mae’n syniad da cadw dadrewydd (de-icer) ar gyfer twll clo y car. Os bydd y cloeon yn rhewi, ceisiwch gynhesu eich goriad neu chwistrellu dadrewydd neu ddefnyddio iraid olew ar y clo.

Gall y gwiriadau canlynol gymryd amser ychwanegol felly mae’n werth cofio hynny cyn cychwyn ar eich taith:

  • Gwnewch yn siŵr fod y botwm weipar awtomatig wedi’i ddiffodd cyn cychwyn yr injan, oherwydd gallai hynny chwythu ffiws y weipars os ydynt wedi rhewi’n sownd i’r sgrin.
  • Dylai eich weipars fod yn gweithio’n iawn fel bod modd glanhau’r sgrin yn effeithiol.
  • Gwiriwch fod digon o wadn ar y teiars. Ni fydd teiars gwael yn gallu cael gafael ar y ffordd pan fyddwch yn gyrru trwy rew ac eira.

Os ydych yn byw mewn ardal sy’n cael eira yn aml efallai y byddai’n werth newid i deiars gaeaf gyda mwy o wadn, ac os yw pethau’n wael iawn y tu allan, gallwch hyd yn oed ddefnyddio sanau eira neu gadwyni ar yr olwynion.

Mae’n hynod o bwysig eich bod yn defnyddio golchwr sgrin o ansawdd da sy’n gallu dal i weithio’n effeithiol ar dymheredd cyn ised â -35° er mwyn osgoi’r dŵr rhag rhewi. Heb hyn, gallai’r weipars fod yn dda i ddim mewn tymereddau isel iawn.

Y peth pwysicaf i fynd efo chi cyn teithio mewn eira yw eich ffôn symudol, efo batri llawn, a rhif ffôn eich cwmni adfer ynddo er mwyn allu galw am help ar unrhyw adeg.

Beth i’w wneud yn ystod tywydd rhewllyd ac eira:

Pan fyddwch yn gyrru ar ffyrdd sydd wedi rhewi, byddwch yn bwyllog efo’r pedalau ac osgowch bwyso’n sydyn ar y sbardun – gallai hynny beri i olwynion y car droelli’n eu hunfan. Dylech gychwyn yn yr ail gêr, gan ryddhau’r clytsh yn bwyllog fel nad yw’r olwynion yn troelli.

I arafu’r car, defnyddiwch yr injan i arafu trwy ddefnyddio’r gêrs – dylech ond bwyso’n ysgafn iawn ar y pedal brêc er mwyn dangos i bobl y tu ôl i chi eich bod yn arafu.

Os dewch at allt, gadewch fwy o le i draffig o’ch blaen, neu arhoswch iddo glirio rhag i chi orfod stopio hanner ffordd i fyny.

Cadwch gyflymder cyson a cheisiwch osgoi newid gêr ar yr allt. Defnyddiwch gêr isel a cheisiwch osgoi brecio.

Gadewch cymaint o le â phosib i’r cerbyd o’ch blaen. Os ydych yn gyrru car awtomatig, edrychwch yn llawlyfr y car i weld a oes modd newid y gosodiad i amodau rhewllyd.

Defnyddiwch eich lampau mewn eira trwm. Ni fydd golau dydd yn ddigon, ac ni fydd yna olau ar gefn eich car.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu gweld y cerbydau o’ch blaen a bod ceir y tu ôl i chi yn ymwybodol ohonoch.

Mae’n bwysig ystyried pa fath o lôn rydych yn gyrru arni ar y pryd. Efallai fod yr amodau wedi gwella ar y prif ffyrdd, ond gallai ffyrdd cefn gwlad neu bontydd dal fod yn beryglus oherwydd bod llai o draffig, neu am nad ydynt wedi cael eu graeanu.

Dylech ystyried effaith tymor hir rhew ac eira, a chymryd gofal ychwanegol am ychydig ddyddiau ar ôl y tywydd garw.


Ffonio llinell wybodaeth Traffig Cymru
0300 123 1213

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
We welcome calls in Welsh

Cysylltu â ni