Lle a Pham?
Cynhelir gwaith i ddigomisiynu'r system Terfyn Cyflymder Amrywiadwy rhwng C24 Coldra a C28 Parc Tredegar yr M4, a chyflwyno system Gorfodaeth Cyflymder Cyfartalog 50mya newydd.
Disgwylir bydd y gwaith hwn yn:-
- helpu i reoli tagfeydd ar hyd y darn hwn o'r M4.
- gwella dibynadwyedd amseroedd teithio yn ystod yr oriau brig a darparu llif traffig llyfnach.
- lleihau'r risg o wrthdrawiad.
- darparu ansawdd aer gwell wrth i lefelau allyriadau llygredig gostwng.
Gwyriadau a Mesurau Diogelwch
Cynhelir y rhan fwyaf o'r cynllun drwy gau lonydd 1 a 2, a 2 a 3. Bydd angen cau'r ffordd yn llwyr er mwyn cwblhau gwaith ar y nenbont, gorffen yr arwyddion ar yr ymyl a'r llain ganol, ac i gael gwared ar y marciau camerau terfyn cyflymder amrywiadwy ar bob lôn yn ddirwystr.
Bydd y llwybr gwyriad ar gyfer cau'r ffordd yn llwyr rhwng C24 a C28 yn dilyn yr A48 FfDDd. Pan fydd y ffordd wedi'i chau'n llwyr, bydd llwybrau gwyriad gydag arwyddion mewn lle i reoli llif y traffig, a bydd arwyddion hysbysu ymlaen llaw wedi eu darparu.
Rhaglen Cyfyngiadau Rheoli Traffig
• Bydd y ffordd ar gau’n llwyr ar yr M4 rhwng cyffordd 23 Coldra i gyffordd 28 Parc Tredegar tua’r dwyrain o Fawrth 1af-5ed a tua’r gorllewin o Fawrth 8-12fed.
• Bydd y terfyn cyflymder 50mya rhwng cyffyrdd 24 a 28 at waith o Ddydd Llun, Mawrth 15fed.
**Noder, gallai'r rhaglen waith newid.
Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD.