Skip to main content
Llinell wybodaeth Traffig Cymru 0300 123 1213
The Welsh Government’s traffic information service for motorways and trunk roads in Wales

Cyngor i'r Rheini sydd wedi Torri i Lawr

Rhannu

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod ein rhwydwaith yn rhedeg yn esmwyth. Mae hyn yn cynnwys rhedeg ein gwasanaeth Swyddog Traffig, fodd bynnag, oherwydd yr achosion o Covid-19 rydym wedi rhoi system newydd o gyfathrebu ar waith.

Rydym yn gofyn yn garedig i'r cyhoedd ein helpu trwy ddilyn cyfarwyddiadau’r Swyddogion Traffig pan mae ei cerbyd wedi’i torri i lawr ar y rhwydwaith. Rhoddir taflen wybodaeth i yrwyr fydd yn amlinellu camau syml i sicrhau eu diogelwch tra hefyd caniatáu’r Swyddogion Traffig ymarfer ymbellhau cymdeithasol. Mae’n bosib fydd Swyddogion Traffig yn gofyn am eich rhif ffôn symudol i gynorthwyo cyfathrebu.

Peidiwch â theithio oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol. Mae hyn yn helpu i leihau'r galw ar y gwasanaeth ac yn ein caniatáu i ganolbwyntio’r adnoddau ar lle maent eu hangen fwyaf.


Diolch.

 


Ffonio llinell wybodaeth Traffig Cymru
0300 123 1213
Cysylltu â ni