Cafodd y strwythur eiconig hwn ar yr A5 ei oleuo i gofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac i ddangos cefnogaeth i'r rhai mewn profedigaeth.
Cafodd y bont grog sy'n rhychwantu Afon Menai sy'n cludo traffig ffordd yr A5 rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, ei goleuo gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i nodi blwyddyn ers y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.
Cefnogwyd goleuo'r strwythur rhestredig Gradd I gan Lywodraeth Cymru ac asiant bartner UK Highways A55 Ltd sy'n cynnal a chadw cefnffordd 40km sy'n rhedeg ar draws Ynys Môn yng Ngogledd Cymru.
Dyluniwyd y bont yn wreiddiol gan y peiriannydd sifil Thomas Telford a chwblhawyd ym 1826, y tirnod enwog hwn oedd y bont grog fwyaf yn y byd ar y pryd. Roedd un ar bymtheg o gadwyni enfawr yn dal 579 troedfedd o ddec y bont, gan ganiatáu 100 troedfedd o le clir i llongau pasio oddi tano.
Gweithiodd Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda thîm arbenigol o gwmni lleol, Illuminated Events Ltd, i oleuo’r bont, yn dilyn galwadau gan y cyhoedd a chynghorwyr lleol.
Trefnwyd teyrnged debyg gan ACGCC ar y cyd â Llywodraeth Cymru y llynedd pan oleuwyd Pont Enfys ar yr A55 mewn teyrnged i weithwyr allweddol.
Dywedodd David Cooil, Pennaeth Gwasanaeth ACGCC:
"Mae tirnodau ar Rwydwaith Cefnffyrdd Cymru fel Bont Menai a Phont Enfys wedi dod yn symbolau ystyrlon sy’n gydnabod yr effaith y mae Covid 19 wedi'i chael ar lawer o bobl Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau partner i oleuo Pont Menai i gofio’r rhai a fu farw yn ystod y pandemig."