Dyddiad Dechrau : 09/01/23 | Dyddiad Gorffen : Hydref 2023
A40 Ynys Yr Wyddfa, Pontsenni – Gwaith adfer tirlithriad - gwaith yn dechrau ar 9fed Ionawr, Lôn ar gau dros nos y 19 a 31 Ionawr 20:00 – 07:00 wedi’i gwblhau Hydref 2023.
Gwaith i adlinio ffordd gerbydau ac adeiladu wal gynnal i ailagor y ddwy ffordd gerbydau ar yr A40 yn Ynys yr Wyddfa ger Pontsenni, ar gau o ganlyniad dirlithriad.
Bydd y gwaith yn dechrau o fewn y goleuadau traffig presennol, gyda lôn ar gau dros nos i osod rhwystrau dros dro i amddiffyn y cyhoedd a'r gweithlu ar 19 a 31 Ionawr.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos ym mis Ionawr pan fo llif y traffig yn hanesyddol is er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Bydd y llwybr dargyfeirio ar hyd yr A40 i Lanymddyfri, yr A483 i Lanfair ym Muallt a'r A470 i Aberhonddu ac i'r gwrthwyneb.
Bydd y goleuadau traffig presennol yn aros yn eu lle hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ym mis Hydref 2023.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD.