Skip to main content
Llinell wybodaeth Traffig Cymru 0300 123 1213

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg | We welcome calls in Welsh

Cysylltu â ni
Gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.

A465 Rhigos i Gefn Coed 40mya: newidiadau i'r cyfyngiad cyflymder

Mae'r cyfyngiad cyflymder ar yr A465 rhwng cylchfannau yr A4059 / A465 Rhigos a'r A465 /A470 Cefn Coed wedi cael ei ostwng o 60 i 40mya.

Mae'r cyfyngiad cyflymder 40mya yn helpu i sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei niweidio yn ystod y gwaith ffordd. Mae hyn yn cynnwys modurwyr a'r rheiny sy'n gweithio i gynnal a gwella'r A465. Mae angen i yrwyr gymryd gofal a chadw at y cyfyngiad cyflymder is oherwydd:

 

  • Bod pobl yn gweithio yn agos at y traffig symudol.
  • Mae'r ffordd yn aml yn fwy cul oherwydd y gwaith sy’n mynd rhagddo.
  • Mae peiriannau yn agos at y ffordd ac o bosib bydd angen iddynt ei chroesi i fedru cael mynediad at ardaloedd gwaith yn ddiogel.
  • Yn aml mae mwy o flerwch gweledol mewn ardaloedd gwaith ffordd. Mae hyn yn ei gwneud yn anos i fodurwyr weld peryglon.
  • Gall gwelededd gael ei leihau oherwydd rhwystrau neu lwch.
  • Gall cerrig gael eu taflu â all niweidio gweithiwr ffordd.

Bydd yn ei le am gyfnod cynllun y gwaith ar ran 5 a 6 o’r A465 a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau tua chanol 2025.

 

Mae'n bosib bod gweithwyr ffordd yn ymgymryd â gwaith yn agos at y briffordd. Felly, hyd yn oed os nad oes hawl tramwy gweladwy, mae angen cyfyngiad cyflymder is ar gyfer diogelwch.

Defnyddir y camerâu cyflymder cyfartalog sydd yno'n barod i sicrhau bod cyflymder yn aros yn is na'r cyfyngiad. Golyga hyn bod angen i holl hyd y ffordd aros yn gyfyngiad cyson.

Mae'r cyfyngiad cyflymder yn ychwanegu tua 3.5 munud at daith pan fydd traffig yn llifo.

Yn anffodus, nid yw hyn yn bosib ar ffordd o'r safon hon. Gall y cyfyngiad cyflymder amrywio ar draffyrdd oherwydd bod nifer o arwyddion electronig i allu gwneud hyn yn ddiogel.

Mae'r system yn mesur cyflymder cyfartalog dros ran o ffordd. Caiff cerbyd ei adnabod wrth ddod i mewn i'r ardal cyflymder cyfartalog, ac eto wrth adael.

Mae GoSafe yn gweithredu'r camerâu ac yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd a heddlu yng Nghymru i orfodi'r rheolau.

 

Darganfyddwch fwy am GoSafe yma.

Ni fydd y camerâu yn gweithio os oes nam technegol. Dim ond pan fo’r orffen yn gweithio yn gywir y gallant gofnodi troseddau. Mae hyn yn ofynnol dan HOTA (Home Office Type Approval).

 

 

Gosodwyd y camerâu ar gantriau a strwythurau ochr ffordd. Byddant yn mesur cyflymder ar yr A465  rhwng cylchfannau A4059 / A465 Rhigos a’r A465 / A470 Cefn Coed. Mae ganddynt y gallu i weithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.  Mae mwy o wybodaeth ar leoliadau'r camerâu a gorfodaeth yn https://gosafe.org/?lang=cy


Ffonio llinell wybodaeth Traffig Cymru
0300 123 1213

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
We welcome calls in Welsh

Cysylltu â ni