Dyddiad Dechrau: 19/05/2023 | Dyddiad Gorffen: 21/05/2023
Gosod llinellau gwyn ac arwyneb lliw yng nghanol y ffordd rhwng Llanidloes a Llandinam.
Bydd y gwaith o osod llinellau gwyn ac arwyneb lliw yng nghanol y ffordd gerbydau ar ran 0.5km o ffordd gerbydau'r A470 tua'r dwyrain a thua'r gorllewin yn Nolwen (rhwng Llanidloes a Llandinam) yn dechrau ar 19/05/23 am 2 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 2 noson 20:00 - 06:00 pan fydd y ffordd gerbydau tua'r dwyrain a thua'r gorllewin ar yr A470 yn Nolwen o'r fynedfa i Ffem Berth-Lwyd hyd at y gyffordd ger Pen-Rhuddlan Uchaf wedi'i chau'n llwyr.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ar y penwythnos pan fydd llif y traffig yn llai, a hynny i leihau'r aflonyddwch.
Bydd traffig sy'n teithio tua'r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio trwy'r A470 tua'r gogledd i Gaersws, yna tua'r de ar y B4569 trwy Drefeglwys i Lanidloes a thua'r dwyrain i'r B4518 Victoria Avenue i ail-ymuno â'r A470.
Caiff y llwybr i'r gwrthwyneb ei ddefnyddio ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r dwyrain.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG.