Dyddiad dechrau: 05/02/23 | Dyddiad gorffen: 06/04/23
Gwaith ail-wynebu sylweddol am 9 wythnos i ddisodli wyneb y ffordd sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes o'r de o C7 Yr Orsedd i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Bydd mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud gyda system gwrthlif a fydd yn caniatáu i'r A483 aros ar agor i un lôn o draffig i'r naill gyfeiriad. Bydd y ffordd ar gau dros nos ar adegau i osod a datgymalu'r system rheoli traffig. Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen Cwestiynau Cyffredin isod.
Beth sy’n digwydd
Bydd y rhaglen isod yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae’r rheolaeth traffig i'r ddau gyfeiriad ar yr A483 o ychydig i'r de o gyffordd 7 Cyfnewidfa'r Orsedd a signalau traffig Belgrave.
Chwefror 5ed a 6ed
- Un lôn ar gau yn ystod y dydd i'r ddau gyfeiriad.
- Un lôn tua'r gogledd dros nos.
- Ffordd ar gau dros nos tua'r de, gan gynnwys slipffyrdd Cyffordd 7 tua’r de. Dargyfeiriad lleol yn ei le.
Chwefror 7fed ymlaen
- Gwrthlif 24 awr, h.y. un lôn i bob cyfeiriad. Bydd slipffyrdd cyffordd 7 tua'r gogledd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Chwefror 9fed a 10fed
• Goleuadau traffig 24awr ar Gyffordd 7 Cylchfan Cyfnewidfa'r Orsedd.
Chwefror 12fed i'r 18fed
- Gwrthlif 24 awr, h.y. un lôn i’r naill gyfeiriad. Bydd slipffyrdd cyffordd 7 tua'r gogledd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Chwefror 19eg i'r 25ain
- Gwrthlif 24 awr, h.y. un lôn i’r naill gyfeiriad. Bydd slipffyrdd cyffordd 7 tua'r gogledd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.
Chwefror 23ain a 25ain
- Goleuadau traffig ar Gyffordd 7 Cylchfan Cyfnewidfa'r Orsedd yn ystod y dydd.
Pan fydd y ffordd ar gau'n gyfan gwbl dros nos bydd y gwyriad fel y manylir yn y map isod. Bydd y gwyriadau pan fydd y slipffyrdd ar gau fel a ganlyn:
- Slipffordd ymadael tua'r gogledd Cyffordd 7 ar gau bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Gyffordd 38 yr A55 ac yn ôl yn y gwrthlif i Gyffordd 7.
- Slipffordd ymuno tua'r gogledd Cyffordd 7 ar gau bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Gyffordd 6 yr A483 ac yn ôl yn y gwrthlif i Gyffordd 7.
- Slipffordd ymadael tua'r de Cyffordd 7 ar gau bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Gyffordd 6 yr A483 ac yn ôl yn y gwrthlif i Gyffordd 7.
- Slipffordd ymuno tua'r de Cyffordd 7 ar gau bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Gyffordd 38 yr A55 ac yn ôl yn y gwrthlif i Gyffordd 7.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG