Dyddiad Dechrau : 06/02/2023 | Dyddiad Gorffen : 30/06/2023
Adeiladu Llwybr Teithio Llesol.
Byddwn yn adeiladu llwybr aml-ddefnydd yn gyfochrog â'r A487 i gysylltu cymuned Dole gyda Ysgol Gynradd Rhydypennau a Bow Street rhwng misoedd Chwefror a Mehefin 2023.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud heb fod angen cau unrhyw ffordd, er hynny bydd goleuadau traffig dwy-ffordd yn cael eu defnyddio am 24 awr y dydd yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd angen defnyddio goleuadau traffig tair-ffordd yn achlysurol wrth weithio'n agos at ymyl y ffordd.
Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i symud yr holl reolaeth traffig dros dro o'r rhwydwaith yn ystod penwythnos y Pasg a chyfnodau embargo eraill.
Misoedd Chwefror i Fehefin 2023 - A487 yn agored i'r holl draffig dan reolaeth traffig dros dro (goleuadau traffig)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG