Rydym yn gofalu am goed ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da a ddim yn gwneud y briffordd yn anniogel.
Mae nifer o goed ar hyd Stryd Fawr, Y Bala wedi cael eu tocio sydd yn golygu torri canghennau'r goeden yn ôl bron i'w prif fonyn. Dyma dechneg hynafol a sefydledig i reoli coed. Defnyddiwyd y dull hwn ar y coed hyn yn y gorffennol.

Cafodd y gwaith yma ei wneud ar y coed o'r blaen oherwydd pryderon diogelwch a achoswyd gan ganghennau yn tresmasu ar adeiladau ac allan i'r ffordd.
Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at goronau'r coed yn mynd yn ddi-siâp ac yn ddau ddimensiwn.
Rhaid gwneud y gwaith yma i’r coed er mwyn:
• diogelu defnyddwyr y ffordd,
• adfer siâp y coed,
• sicrhau iechyd da’r coed a’u cynaliadwyedd hirdymor.
Mae tocio’r coed yn eu helpu i fyw’n hirach trwy eu cynnal mewn cyflwr rhannol ifanc a thrwy leihau pwysau o rannau uchaf y goeden.
Mae hyn yn golygu bod canghennau'n llai tebygol o ddisgyn yn ystod amodau gwyntog. Ar ôl cael eu tocio, bydd y coed yn ymateb drwy anfon twf newydd o'r coesynnau sydd wedi torri.
Bydd y twf newydd hwn yn cael ei reoli drwy docio'n ofalus i adfer eu siâp. Bydd hyn yn gwneud y coed edrych yn well ac yn fwy addas ar gyfer eu safle yn y lleoliad trefol sydd braidd yn annaturiol iddynt.
Er bod angen tocio rhai coed mae angen lleihau’r coronau ar rai eraill, tynnu canghennau i wneud digon o le i lampau, neu eu torri i wella eu siâp. Bydd angen tynnu nifer fechan o goed ac ail-blannu.
Y rheswm am hyn yw eu bod naill ai'n cael eu difrodi, yn rhy fawr i'w safle, neu’n ddi-siâp.
Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Gwynedd a chyngor tref Y Bala i ddatblygu cynllun rheoli mwy hirdymor ar gyfer y coed.
Y gwaith diweddaraf hwn yw'r rhan gyntaf o gynllun rheoli mwy hirdymor sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer y coed. Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys:
• tynnu gridiau metel o waelod y coed oherwydd mae llawer ohonynt yn niweidio gwaelod y boncyffion. •
gosod is-haen fwy addas ar waelod y coed fydd yn caniatáu mwy o ddŵr ac ocsigen i fynd i wreiddiau'r coed.
• ailosod rhai o’r coed. • gwaith torri ar goed sy'n weddill, a chynnal a chadw’r coed a gafodd eu tocio’n ddiweddar.