Bydd y prosiect hwn yn cynnwys amnewid hangeri ar Bont Menai. Bydd cyfyngiad pwysau cerbyd o 7.5t ar y bont o 5yb ar yr 2il o Fehefin 2022. Bydd hyn yn gwella diogelwch ar y rhan yma o'r rhwydwaith ac yn lleihau'r risg o gau’r bont heb ei gynllunio.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli traffig, gweler y manylion isod.
Bydd cyfyngiad pwysau cerbyd o 7.5t yn ei le ar y bont fel rhagofal. Bydd cerbydau cyfyngedig yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A55 Pont Britannia. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y prosiect amnewid hangeri cyn gynted â phosibl.
Yn anffodus, ni fydd bysiau yn gallu teithio ar y ffordd hon tra bod y cyfyngiad pwysau yn ei le. Bydd Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn datblygu amserlenni a llwybrau diwygiedig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Traveline Cymru - Cynllunio Taith Cymru.
Bydd y goleuadau traffig yn cael eu tynnu unwaith y bydd y cyfyngiad pwysau yn ei le. Bydd angen cau lonydd pellach yn ystod y gwaith atgyweirio ac ailosod y hangeri. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn nes at yr amser. Gwneir pob ymdrech i gynllunio cau'r lonydd hyn y tu allan i oriau prysuraf
er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Bydd cerbydau ambiwlans a’r heddlu yn dal i allu teithio dros y bont. Ni chaniateir peiriannau tân gan eu bod yn pwyso dros 7.5t. Mae'r gwasanaeth tân wedi cael gwybod ac yn cynnwys y cyfyngiad hwn yn eu cynlluniau gweithredol.