Dyddiad Cychwyn: Mawrth 7fed | Dyddiad Gorffen: Gwanwyn 2023
Bydd y prosiect hwn yn gwella system ddraenio’r ffordd a diogelwch ar y rhan hon o’r rhwydwaith.
Am ragor o wybodaeth am y gwaith, dilynwch y ddolen i Lywodraeth Cymru ar waelod y tudalen, i gael gwybodaeth am reoli traffig gweler y manylion isod.
Mae angen rhagor o waith rheolaeth traffig ar gyfer gwaith wrth ymyl yr A55, yn cynnwys:
- cau lonydd dros nos i'r ddau gyfeiriad gyda llai o derfyn cyflymder.
- cau'r ffordd yn gyfan gwbl dros nos tua'r dwyrain i gael gwared ar rwystrau dros dro a chamerâu gorfodi cyflymder cyfartalog.
Pan fydd y ffordd ar gau'n gyfan gwbl gwelwch y gwyriad isod:
Mae'r terfyn cyflymder o 40mya ar waith i ddiogelu modurwyr a'r gweithlu fydd yn gweithio'n agos i draffig. Gofynnwn yn garedig i yrwyr barchu ein gweithwyr ffordd, arafu ger gwaith ac ufuddhau i derfynau cyflymder ac arwyddion.
Tua’r gorllewin
Cafodd hyd y cyfyngiad cyflymder tua'r gorllewin ei leihau i gynnwys y llwybr cerdded rhwng cyffordd 13-14 yn unig (hyd 1 km). Mae cynhaliad y bont yn agored ac felly ni ellir dileu'r terfyn cyflymder hyd nes y bydd yr holl waith yn y lleoliad hwn wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith wedi'i raglennu tan ganol mis Ebrill.
Tua’r dwyrain
Ni fydd y gwaith ar y rhwydwaith ffordd sirol, sy'n agos at gyffordd 13 tua'r dwyrain A55 yng nghyffordd 13, wedi'i gwblhau tan gwanwyn 2023. Gan bod y ffordd hwn yn agos at yr A55, bydd angen i'r rhwystrau ffordd dros dro a'r cyfyngiad cyflymder o 40mya tua'r dwyrain aros dros y cyfnod hwn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu Twitter @TraffigCymruG a Facebook Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth.