Gwaith rhwydi a ffensio o dan yr M4 ar bedwar strwythur yn ffurfio Ffordd Osgoi Port Talbot yr M4, Heol Dyffryn, Tan y Groes, Afan a Llewellyn i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod archwiliadau.
Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) wedi adnabod ardaloedd lleol sydd a choncrid sydd wedi rhannu'n haenau ar bob strwythur. Er mwyn rheoli'r risg mae ACDC yn archwilio'r strwythurau o lefel y ddaear am gyfnodau o 2 wythnos gan gynnal archwiliadau agos o ardaloedd sydd â risg uchel bob chwarter. Cyn mynd ati i ymgymryd â'r gwaith trwsio ac i ostwng y risg ymhellach o goncrid yn cwympo mae angen i ni yn awr gymryd mesurau ychwanegol.
Gwelwch y cynllunio ffensio a rhwydi ar y strwythurau isod.
Bydd yr ardaloedd ble mae'r concrid yn rhannu'n haenau yn cael eu ffensio a/neu eu rhwydo i atal mynediad i'r cyhoedd. Ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru bydd ACDC yn cynnal ymchwiliad i benderfynu beth yw'r rheswm dros y diffyg gan ddatblygu cynllun i atgyweirio'r concrid sy'n rhannu'n haenau.
Mae angen y mesurau hyn:
- Dileu'r risg o goncrid yn cwympo ar dir cyhoeddus a phreifat;
- Ymchwilio i achos y diffyg;
- Datblygu a gweithredu cynllun i atgyweirio ac atal diffygion o'r natur yma yn y dyfodol.
Bydd y ffensys a rhwydi yn aros yn eu lle hyd nes bydd gwaith atgyweirio'r concrid wedi ei orffen ac nad oes perygl mwyach.
Ni allwn ar hyn o bryd roi amcangyfrif pryd fydd y dyddiad i ddechrau atgyweirio'r concrid oherwydd cymhlethdod y strwythurau, er hynny, bydd ACDC ar ran Llywodraeth Cymru yn ceisio datblygu a gweithredu'r cynllun cyn gynted â phosib.
Penodwyd Knights Brown Construction Ltd fel y Prif Gontractwr ar gyfer y gwaith ffensio a rhwydo.
Mae AECOM wedi eu penodi fel y Dylunwyr a'r Goruchwyliwr i'r gwaith ffensio a rhwydo.
Bydd y gwaith o osod ffensys a rhwydi yn dechrau yn 2022, ac mae'r gwaith o ddylunio'r atgyweiriadau i'r concrid eisoes wedi dechrau.
Na, dim ar yr M4. Efallai y bydd angen cau lôn a/neu osod goleuadau traffig dros dro ar rai rhannau o'r rhwydwaith lleol.
Ni fydd traffig yn cael ei wyro - byddwn yn defnyddio goleuadau traffig i ganiatáu i'r ffyrdd aros yn agored.
Yn ystod y gwaith: efallai y bydd parcio ar ffordd leol yn cael ei gyfyngu i alluogi i beiriannau symud i'r safle. Darperir manylion yn fuan.
Bydd angen i'r gwaith gael ei wneud yn ystod y nos a'r dydd.
Y gweithgareddau mwyaf swnllyd fydd cloddio a drilio. Bydd mesurau yn cael eu rhoi yn eu lle i gadw'r sŵn i leiafswm a/neu, os yw'n ymarferol, bydd y tasgau yn digwydd ar yr adegau mwyaf priodol.