Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Graenu ar y Rhwydwaith- Feithiau chwalu mythau

Darganfyddwch y ffeithiau am y peiriannau graenu ar draws traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.

Mae'r ddau asiant cefnffyrdd yn gweithio'n galed yn ystod misoedd y gaeaf i gadw'r rhwydwaith yn glir yn ystod tywydd garw. Mae awdurdodau lleol yn gofalu am yr holl ffyrdd eraill. 

Rydym yn rhannu mwy o wybodaeth am rhai o'r mythau mwyaf cyffredin am yr hyn sydd yn digwydd i gadw ein ffyrdd yn glir.
 

Myth Halen 1 : “Mae’r ffyrdd wedi eu graeanu felly gallaf yrru fel rwyf yn arferol.”

Nid yw hyn yn wir - mae pellter brecio yn llawer hirach nac yn yr haf, yn enwedig ar deiars haf. Gyrrwch i’r amodau.

Myth Halen 2 : “Mae halen yn achosi i rew ac eira diflannu”.

Yn anffodus nid yw hyn yn wir. Mae halen yn cymysgu efo eira a rhew gan achosi heli gyda phwynt rhewi îs. Mae’n helpu i glirio rhew a meddalu eira yn gyflymach. Mae dal angen traffig i’w gymysgu ac felly ei feddalu. 

Myth Halen 3: “Mae gwrthdrawiad wedi digwydd, nid ydych wedi graeanu’r ffordd”.

Mae ein graeanwyr allan pryd bynnag mae’n angenrheidiol ac mae rhagolygon yn cael eu monitor drwy’r adeg. 
Gall amodau dal fod yn anodd dim bwys faint o halen caiff ei ddefnyddio, mae’n rhaid i ymddygiad gyrwyr newid efo’r amodau.  
 

Myth Halen 4: “Mae’r ffyrdd yn wyn, nid ydych wedi graeanu”

Er bod rhew yn aml yn wyn, mae halen hefyd yn sychu yn wyn ar arwyneb y ffordd. 

Myth Halen 5: “Mae’n bwrw eira ac mae’r ffordd ar gau, nid ydych yn graeanu/ defnyddio eich swch eira digon.”

Yn anffodus, os ni all cerbyd pasio mewn eira ac nid yw traffig yn symud, mae effeithlonrwydd ein halen yn lleihau ac mae’n rhaid i’n graeanwyr disgwyl i’r cerbydau cael eu hadfer. 

Myth Halen 6: “Mae yna eira ar y ffordd, nid ydych wedi graeanu.”

Nid yw halen yn stopio eira rhag setlo ar y ffordd, yn enwedig mewn eira trwm. Mae halen yn gweithio i’w glirio’n gyflymach.  

Myth Halen 7: “Mae halen yn gwella gafael”.

Nid yw hyn yn wir, er ei fod yn cynnig ychydig o adlyniad, mae yna yn bennaf i leihau effaith eira a rhew.