Y llynedd lansiwyd cystadleuaeth gennym i enwi graenwyr Llywodraeth Cymru a weithredir gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru. Cawsom ymateb gwych gan y cyhoedd gyda dros 300 o awgrymiadau i ddewis ohonynt. Dewiswyd deg enw hyd yn hyn a'u hargraffu ar ein fflyd gyntaf o raeanwyr.
Dyma'r enillwyr hyd yn hyn:
1. Oh Salt’s Occurring
2. Snowain Glyndwr
3. Pretty Gritty City
4. Fan Halen
5. Aneurin Bevan
6. Pont Y Ploughie
7. Y Ddraig Oren
8. Dai Icer
9. Eira Gwyn
10. Cymro
Cafodd yr enwau eu hysbrydoli gan themâu Cymraeg ac enwogion gyda naws tymhorol. Dewiswyd Aneurin Bevan, i anrhydeddu’r GIG ac ymdrechion anhygoel gweithwyr iechyd rheng flaen dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd deg ar hugain o raeanwyr yn ffurfio cyfanswm fflyd o ddeugain. Mae’r cerbydau hyn wedi bod yn patrolio traffyrdd a chefnffyrdd Cymru trwy gydol y gaeaf i helpu i gadw traffig i symud mewn tywydd garw.
Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth y llynedd, rydyn ni wedi penderfynu rhedeg un arall i enwi’r graeanwyr sy’n weddill. Anfonwch eich awgrymiadau trwy ddefnyddio #EnwiEinGraenwyrDC a tagio @TraffigCymruD neu e-bostio [email protected]. Byddwn yn cyhoeddi ein prif ddewisiadau o Hydref 2021.
Bydd y graeanwyr hyn yn gwella diogelwch i yrwyr a gweithwyr oherwydd technoleg well y cerbydau, eu sefydlu a gwella gwelededd. Mae'r cerbydau diweddaraf yn cynnwys technoleg arloesol sy'n cynnwys: -
• Dyfais Olrhain GPS
• Y gallu i ledaenu halen yn awtomatig
• Y gallu i gymhwyso nifer o ddeunyddiau dadrewi
Ar gyfartaledd, fe wnaethon ni raeanu’r Gefnffordd a’r Draffordd ar hyd rhwydwaith De Cymru 1670 gwaith y llynedd a gyda’r rhagolygon tywydd oerach yr wythnos hon, bydd ein gyrwyr graeanu yn barod i weithio o amgylch y cloc i gadw traffig i symud.
Hyd yn oed pan mae ffyrdd wedi'u graeanu mae'n bwysig bod gyrwyr yn dal i gymryd gofal a gyrru i'rmud. amodau i gadw'n ddiogel. Pan ragwelir tywydd garw, dylai gyrwyr ddilyn y cyngor cyffredinol hwn:
• mewn eira a rhew, dylai gyrwyr gadw at y prif ffyrdd lle gallant a theithio dim ond os oes angen - anogir gyrwyr hefyd i sicrhau bod ganddyn nhw becyn eira yn eu cerbyd, gan gynnwys sgrafell iâ a dad-icer, dillad cynnes a blancedi a sbectol haul i ymdopi â haul isel y gaeaf.