Dyddiad Dechrau: 22/05/2023 | Dyddiad Gorffen: 02/06/2023
Bydd gwaith hanfodol i drwsio ddarnau o'r ffordd yn dechrau am 3 noson tua'r gorllewin o Fai 22 ac am 3 noson tua'r dwyrain o Fai 30.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nôs rhwng 8pm a 6am gyda'r ffordd ar gau'n gyfan gwbl.
22/05/2023 - 25/05/2023
- M4 tua'r gorllewin ar gau o G22 Pilning i G23A Magwyr am 3 noson.
- M48 tua'r gorllewin ar gau o G2 Newhouse i G23 Rogiet. Bydd angen cau’r ffordd hwn hefyd er mwyn atal mynediad i’r ardal gwaith ffordd ar yr M4.
30/05/2023 - 02/06/2023
- M4 tua'r dwyrain ar gau o C23A Magwyr i G22 Pilning
- M48 tua'r dwyrain ar gau o C23 Rogiet i G2 Newhouse. Bydd angen cau’r ffordd hwn hefyd er mwyn atal mynediad i’r ardal gwaith ffordd ar yr M4.
Er mwyn darparu'r parthau diogelwch angenrheidiol gan leihau unrhyw darfu a thagfeydd i'r cyhoedd sy'n teithio, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod y nos.
Bydd traffig sydd dros 15 troedfedd mewn uchder wedi ei wyro yn defnyddio M5-M50-A40-A449.
Bydd traffig sydd o dan 15 troedfedd mewn uchder wedi ei wyro yn defnyddio'r A48 yng Nghas-gwent.
Gwyriad tua'r gorllewin
Gwyriad tua'r dwyrain
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD.