Dyddiad dechrau: 01/08/2022 | Dyddiad gorffen: 16/08/2022
Bydd gwaith hanfodol i ail-wynebu darn 1.2km o ffordd gerbydau'r M4 C42 i'r ddau gyfeiriad am 16 noson.
M4 tua'r gorllewin o C41 Pentyla i C43 Llandarsi
- Cau ffordd dros nos am bedwar noson rhwng 20:00-06:00 ar Awst 1af -Awst 5ed.
M4 tua'r dwyrain o C43 Llandarsi i C41 Pentyla
- Lôn 1 tua'r dwyrain ar gau am un noson rhwng 20:00 - 06:00 ar Awst 1af - 2il Awst.
- Cau'r ffordd dros nos am bedair noson rhwng 20:00-06:00 ar Awst 8fed-Awst 12fed.
- Ffordd ar gau dros nos am dwy noson rhwng 20:00-06:00 Awst 15fed-17eg.
Ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r dwyrain sydd eisiau mynediad i'r M4 o'r A483 Fabian Way, ewch ymlaen tua'r gorllewin ar hyd yr M4 cyn gadael C43 Llandarcy gan wedyn fynd yn ôl i gyfeiriad y Dwyrain heibio C42
Ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r gorllewin sydd eisiau mynediad i'r A483 Fabian Way, ewch ymlaen heibio C42 tua'r gorllewin ar hyd yr M4 cyn gadael yn C43 Llandarcy ac yna mynd i gyfeiriad y dwyrain ar hyd yr M4 tan C42 i ail-ymuno â'r A483 Fabian Way yn Earlswood.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Trydar @TraffigCymruD.