Lle a Pham?
Caewyd yr A479 yn sgil tirlithriad yn ystod Storm Dennis.
Mae gwaith i adnewyddu a gwella draenio ar y briffordd bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Bydd hyn yn lleihau'r risg o ddirywiad pellach cyn ac ar ôl i'r gwaith parhaol ar y llethr gael ei wneud.
Yn anffodus, mae'r prosesau tir statudol a'r gwaith dylunio manwl wedi cymryd yn hirach nag a ragwelwyd yn wreiddiol, yn sgil amgylchiadau nas ragwelwyd.
Mae hyn wedi oedi'r prif waith atgyweirio geodechnegol y llethr sy'n golygu cael mynediad i ardaloedd sydd y tu allan i ffin bresennol y briffordd. Mae'r gwaith bellach yn ailgychwyn a rhaglennir iddo gael ei gwblhau ddiwedd y gwanwyn 2021.
Gwyriadau a Mesurau Diogelwch
Y ffordd amgen i draffig sy'n teithio tua'r de yw drwy'r A438 tua'r gorllewin i Bont-y-bat, yr A470 tua'r de-orllewin i Aberhonddu a'r A40 tua'r de-ddwyrain i gyffordd yr A40/A479 yn Nantyffin: i'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r gogledd.
Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG.