Datganiad Polisi
Mae'r Polisi Amgylcheddol hwn yn cwmpasu rheoli gweithgareddau a gyflawnir gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC). Mae'r gweithgareddau hyn yn ymwneud â'n pedwar maes gweinyddol: Rheoli Busnes, Rheoli Asedau, Gweithrediadau Ardal a Rheoli Rhwydwaith. Mae System Reoli Amgylcheddol ACDC yn mynd i'r afael â'n heffaith ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig a systemau sgrinio amgylcheddol, gan annog ystyried cyfleoedd ar gyfer gwella.
Bydd y Polisi yn anelu at fod yn gydnaws yn fras â Strategaeth Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y mae'n is-adran ohono, a Pholisïau Llywodraeth Cymru, fel Asiant.
Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad mae'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a nodir yn Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a'r polisïau a adlewyrchir mewn dogfennau allweddol.
- Cynllun Strategol Sero Net
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru)
- Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru)
- Ffyniant i bawb: Cymru sy'n effro i'r hinsawdd
- PAS 2080:2023 Rheolaeth Carbon mewn Adeiladau ac Isadeiledd.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Gan Bennaeth ACDC a'r Uwch Dîm Rheoli y mae'r cyfrifoldeb terfynol am y polisi amgylcheddol a monitro perfformiad, gan gynnwys cydymffurfio â'r gofynion amgylcheddol.
Bydd yr Uwch Dîm Rheoli yn dirprwyo'r dasg o gynnal gweithdrefnau a gweithrediadau amgylcheddol a pherfformiad gweithredol ei system reoli amgylcheddol (ISO 14001:2015) i bersonél cymwys.
Mae gan bob un sy'n gyflogedig gan ACDC a'r rhai sy'n gweithio ar ein rhan, ddyletswydd i gymryd gofal i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol posib a allai ddigwydd trwy eu gweithrediadau dyddiol. Dylent hefyd roi gwybod am unrhyw ddamweiniau amgylcheddol, digwyddiadau, damweiniau fu bron â digwydd neu bryderon i'w Rheolwr Llinell, yr Adran Ddiogelwch a Chydymffurfiaeth, neu drwy system adrodd Evotix, cyn gynted â phosib.
Mae gan bob gweithiwr ddiwydrwydd dyladwy i ddilyn gweithdrefnau a chanllawiau amgylcheddol.
Mae ACDC yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r adnoddau angenrheidiol hefyd fel eu bod ar gael i ddyrannu, datblygu a gweithredu'r polisïau, y gweithdrefnau a'r mesurau ymarferol i sicrhau y gellir cyflawni'r ymrwymiadau hyn.
Ymrwymiad Amgylcheddol
Mae ACDC wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Atal llygredd, lleihau gwastraff, a gostwng y defnydd o adnoddau - i leihau effeithiau amgylcheddol ACDC. Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddeunyddiau â phosib.
- Annog a gwella bioamrywiaeth ac ecoleg, a diogelu rhywogaethau.
- Cydymffurfio â'r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol ac unrhyw ofynion eraill sy'n ymwneud â'n heffaith a'n gogwydd amgylcheddol.
- Gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus trwy adolygu a gosod targedau blynyddol i gyflawni amcanion amgylcheddol a gwella perfformiad amgylcheddol.
- Monitro a mesur data amgylcheddol perthnasol.
- Ystyried yr effaith fyd-eang ehangach yn ein holl weithgareddau.
Hyfforddiant
Byddwn yn sefydlu rhaglen hyfforddi i'r Cwmni fydd yn addysgu ac yn ysgogi ein gweithlu mewn ymwybyddiaeth amgylcheddol a'u cyfrifoldebau.
Cyfathrebu
Mae'r polisi hwn yn cael ei gyfathrebu i'n holl weithwyr a'r bobl sy'n gweithio ar ein rhan ac mae ar gael i'r cyhoedd ar gais. Gellir dod o hyd iddo ar System Reoli SIMS a thudalen mewnrwyd fewnol ACDC.
Adolygiad Polisi
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd, ac yn sgil unrhyw newid sylweddol. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu cyfathrebu i'r rhanddeiliaid perthnasol.