Dyddiad cychwyn: 26/10/2026| Dyddiad gorffen: 31/03/2027
Mae gwaith cynnal a chadw priffyrdd hanfodol wedi'i gynllunio i gael ei gynnal ar yr A40 rhwng Fferm Pyscodlyn a'r Ffin Sirol yng Nglangrwyne. Bydd y gwaith yn cynnwys trwsio a chryfhau wal gynnal bresennol, ynghyd ag adeiladu rhwystr diogelwch atal cerbydau er mwyn gwella diogelwch ar hyd y darn hwn o'r ffordd gerbydau. Bydd y gwaith yn dechrau ar 26/10/2026
Bydd un lôn ar gau ar yr A40 yn y lleoliad hwn drwy gydol y cynllun gyda'r defnydd o oleuadau dwyffordd.
Bydd gofyn cau'r ffordd yn llwyr ar nifer cyfyngedig o nosweithiau yn ystod y cyfnod adeiladu, fodd bynnag, bydd y rhain yn cael eu gweithredu yn ystod oriau nos yn unig (2000 awr i 0600 awr), a darperir hysbysiad ymlaen llaw yn yr achosion hyn.
Mae dyddiad cyntaf lle bydd y ffordd ar gau yn llwyr wedi'i gynllunio ar gyfer 26 Hydref 2026.
Yn ystod yr achosion o gau'n llwyr, y llwybr amgen ar gyfer cerbydau ysgafn sy'n teithio tua'r dwyrain yr effeithir arnynt fydd yr A40 i Grucywel, i'r dwyrain ar hyd yr A4077 tuag at Gofilon ac yna i'r dwyrain ar hyd ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd i ail-ymuno â'r A40 yn y Fenni. I'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau ysgafn tua'r gorllewin.
Y llwybr amgen ar gyfer cerbydau trwm sy'n teithio tua'r dwyrain yr effeithir arnynt fydd i'r gorllewin ar hyd yr A40 tuag at Aberhonddu, i'r de ar hyd yr A470 tuag at Ferthyr Tudful ac yna i'r dwyrain ar hyd ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd i ail-ymuno â'r A40 yn y Fenni. I'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau trwm tua'r gorllewin.