Dyddiad Dechrau: 14/09/26 | Dyddiad Gorffen: 26/09/26
Bydd gwaith i ymgymryd â gwaith ail-wynebu hanfodol ar ran o'r A470 ym Mhentref y Bontnewydd-ar-Wy ym Mhowys yn dechrau ar 14/09/2026 tan 26/09/2026 ac eithrio penwythnosau.
Yr holl waith i'w wneud yn ystod y nos gyda'r ffordd wedi cau. Oriau gwaith yw 19:00 i 06:00.
Dim gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer nos Sadwrn na nos Sul.
Cam 1 (Ai-wynebu'r ffordd)
Rhan ddeheuol y pentref o gyffordd ffordd sirol Powys C1210 (yn arwain i Frynwern) hyd at ochr ogleddol cyffordd y B4358 (New Inn).
Cam 2 (Ail-wynebu'r ffordd)
Rhan ogleddol y pentref o ochr ogleddol cyffordd y B4358 (New Inn) hyd at ochr ogleddol cyffordd y B4358 (Ffordd Beulah).
Cam 3 (Marciau ffordd a thriniaethau wyneb arbenigol)
Y cyfan o'r A470 drwy'r pentref o gyffordd ffordd sirol Powys C1210 (sy'n arwain i Frynwern) hyd at ochr ogleddol cyffordd y B4358 (Ffordd Beulah).
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif y traffig yn is, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.