Dyddiad Dechrau: 07/09/2026 | Dyddiad Gorffen: 14/09/2026
Bydd gwaith i ymgymryd â gwaith ail-wynebu hanfodol ar ran o'r A470 yn Ty-Gwyn, i'r dwyrain o Llanfair-ym-Muallt, Powys, yn dechrau ar 07/09/2026, am 7 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 7 noson rhwng 19:00 - 07:00 a bydd y ffordd gerbydau yn cau yn llwyr. Bydd gwyriad wedi'i arwyddo ar y cefnffyrdd.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif y traffig yn is, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.
Bydd gwyriad wedi'i arwyddo ar y cefnffyrdd.
I draffig tua'r de: o'r pwynt cau gogleddol yn Llanfair-ym-Muallt, teithiwch i'r de-orllewin ar yr A483 i Lanymddyfri, yna tua'r dwyrain ar yr A40 i Aberhonddu, yna i'r gogledd ar yr A470 tua Llanfair-ym-Muallt i ben deheuol y rhan o'r ffordd sydd ar gau. Caiff y llwybr i'r gwrthwyneb ei ddefnyddio ar gyfer traffig yn teithio tua'r gogledd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG