Dyddiad Dechrau:02/11/26 Dyddiad Gorffen:15/11/26
Yr holl waith i'w wneud tra bod y ffordd ar gau. Yr oriau gwaith yw 08:00 i 17:00 o'r gloch.
Oherwydd cyflwr dirywiol y ffordd gerbydau ar yr A479 ym mhentref Cwmdu ym Mhowys, bydd gwaith ail-wynebu hanfodol ar y ffordd gerbydau yn dechrau ar 02/11/2026 tan 15/11/2026.
I gymryd mantais o'r ffordd ar gau, bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal ar hyd yr A479 rhwng Talgarth a Chwmdu rhwng 02/11/2026 a 06/11/2026.
Bydd hyn yn osgoi angen cau'r ffordd eto yn yn ardal.
Bydd y ffordd ar gau rhwng Cwmdu a Chylchfan Talgarth ar yr A479/B4560, Talgarth. Bydd mynediad ar gael hyd at y rhannau sydd ar gau.
Bydd y Gwasanaethau Brys a bysiau Ysgol/Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael mynediad wedi'i reoli drwy'r rhannau sydd ar gau. Bydd trefniadau tebyg ar waith i ganiatáu i breswylwyr/cwsmeriaid/gweithwyr adael a chyrraedd yr eiddo sydd yn yr ardal wedi cau, ond bydd oedi.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y dydd rhwng 08:00 a 17:00, a bydd y ffordd gerbydau'n cael ei chau'n llwyr. Llwybr swyddogol y gwyriad, gydag arwyddion, fydd yr A479 i Fronllys, yr A438 i Bontybat, yr A470 i Aberhonddu, yr A40 i Nantyffin gan ailymuno â'r A479, ac i'r gwrthwyneb i gerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall.
Yr holl waith i'w wneud tra bod y ffordd ar gau. Yr oriau gwaith yw 08:00 i 17:00 o'r gloch.
Dim gwaith ar y penwythnos wedi'i gynllunio ar hyn o bryd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigcymruG