A483
Dyddiad Dechrau: 19/11/2026 - Dyddiad Gorffen: 18/12/2026
Gwaith hanfodol o osod wyneb newydd ac ailadeiladu ar yr A483 rhwng y Drenewydd a'r Trallwng – Cam 2
Disgwylir i'r gwaith gwella priffordd hanfodol ddechrau ar 19 Tachwedd 2026, ar ôl cwblhau'r gwaith Cam 1 presennol rhwng Cyffordd y B4389 (Aberbechan) ac Aber-miwl.
Er mwyn hwyluso'r gwelliannau hanfodol hyn yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd y ffordd yn cael ei chau dros dro. Mae'r cam hwn yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y ffordd, gan ganiatáu i weithgareddau adeiladu gael eu cynnal heb y risgiau sy'n gysylltiedig â thraffig sy'n mynd heibio.
Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad trigolion, busnesau a defnyddwyr ffyrdd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud.
Amseroedd Cau'r Ffordd
- Dydd Llun i Ddydd Gwener
- 20:00 i 06:00
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Plaenio a chael gwared ar wyneb presennol y ffordd.
- Plaenio ac ailwynebu'r haen sylfaen a'r haen rwymo.
- Addasu gorchuddion tyllau archwilio a gylïau draenio ar y briffordd.
- Gosod haen wyneb asffalt newydd.
- Ailosod stydiau ffordd.
- Gosod marciau ffordd newydd.
- Gosod deunydd wyneb ffrithiant uchel newydd.
- Amnewid uniadau ehangu mewn pont.
Mae'r gwelliannau hyn yn cael eu gwneud i wella cyflwr, diogelwch a hirhoedledd y rhwydwaith priffyrdd, gan helpu i ddarparu llwybr llyfnach a mwy dibynadwy i holl ddefnyddwyr y ffordd.
Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod a achosir a diolch am eich dealltwriaeth yn ystod y gwaith hanfodol hwn.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y llwybr sydd wedi'i arwyddo:
Tua'r de: Yr A483 i'r de, i'r A489 i gyfeiriad yr Ystog, yna i'r A490 i'r gylchfan yn Sarn-y-Bryn Caled, cyn ailymuno â'r A483.
Caiff y llwybr i'r gwrthwyneb ei ddefnyddio ar gyfer traffig tua'r gogledd.
Bydd arwyddion rhybuddio ymlaen llaw yn cael eu gosod i roi gwybod i ddefnyddwyr y ffordd am y trefniadau cau a'r gwyriad.
Bydd amodau traffig ar hyd y gwyriad yn cael eu monitro trwy gydol y gwaith i adnabod unrhyw broblemau a phenderfynu a oes angen unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol.