Dyddiad Dechrau: 07/09/2026 | Dyddiad Gorffen: 18/09/2026
A487 Pentref Llanrhystud, Ceredigion - Ffordd ynghau rhwng y B4337 Teras Moelifor a'r C1127 Heol yr Ysgol.
Bydd gwaith hanfodol i ail-wynebu'r ffordd gerbydau o 07/09/26 – 18/09/26 yn cael ei wneud dros nos o dan gau ffordd o 19:00 i 06:00.
Gwaith atgyweirio hanfodol i'r ffordd gerbydau ar yr A487 ym mhentref Llanrhystud, Ceredigion rhwng y B4337 Teras Moelifor a'r C1127 Heol yr Ysgol.
Gan nad yw'r ffordd yn ddigon llydan i ymgymryd â'r gwaith yn ddiogel wrth gynnal o leiaf un lôn o draffig ar gyfer cerbydau, bydd angen cau'r ffordd yn llwyr dros nos o'r 7fed o Fedi 2026 i 18fed o Fedi 2026 rhwng 19:00 o'r gloch a 06:00 o'r gloch.
Bydd cerbydau sy'n teithio tua'r gogledd yn cael eu dargyfeirio o Aberaeron ar yr A482 tua'r de-ddwyrain i Lanbedr Pont Steffan, yr A485 tua'r gogledd-ddwyrain i Dregaron a'r A485 tua'r gogledd drwy Ledrod a Llanilar i ailymuno â'r A487 yn Llanfarian: i'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r de.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif y traffig yn is, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG