A55 Cyffordd Llanddulas
Dyddiad Dechrau: 16/11/26 | Dyddiad Gorffen: 27/11/26
Bydd gwaith hanfodol i osod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau ar ffyrdd ymuno ac ymadael C23 yr A55 tua'r dwyrain yn dechrau ddydd Llun 16/11/2026 tan ddydd Gwener 27/11/2026.
Bydd y ffyrdd ymuno ac ymadael ar gau yn ystod y cyfnod yma nes bod y gwaith wedi'i gwblhau.
Bydd ffyrdd ymuno ac ymadael C23 yr A55 yn cael eu cau yn llwyr, gyda thraffig sy'n dymuno gadael yr A55 yn Llanddulas yn cael ei ddargyfeirio i'r dwyrain i Gyffordd 23a Pensarn i ailymuno â'r A55 tua'r gorllewin ac ymadael wrth Gyffordd 23 tua'r gorllewin.
Bydd traffig sy'n dymuno ymuno â'r A55 tua'r dwyrain yn Llanddulas yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A547 trwy Abergele i ymuno â'r A55 wrth Gyffordd 24.