Dyddiad cychwyn: 03/07/2026 | Dyddiad gorffen: 14/08/2026
Gwaith i gynnal atgyweiriadau hanfodol i goncrit Traphont Ceunant Clydach ar yr A465. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y lôn gyntaf yn y cyfeiriad tua'r gorllewin ar gau am tua 800m, gan ddechrau o safle bws Drum and Monkey. Mae'r lôn ar gau er mwyn diogelwch. Bydd y gwaith yn dechrau ar 03/07/2026 ac yn para am 6 wythnos. Bydd cyfres o gyfnodau cau yn ystod y nos hefyd, fel y nodir isod.
Mae angen gwaith atgyweirio brys ar goncrit Traphont Ceunant Clydach ar yr A465 oherwydd diffygion a ganfuwyd yn ystod archwiliad diweddar. Bwriedir cwblhau'r gwaith atgyweirio erbyn 14/08/2026. Bydd angen cau'r lôn gyntaf ar y strwythur nes bydd y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.
Yn ogystal â'r uchod, bydd cyfres o gyfnodau cau yn ystod y nos (20:00 – 06:00) ar yr A465 i gyfeiriad y gorllewin, o gylchfan Glanbaiden i gylchfan Brynmawr; mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer nosweithiau 29/07/26 a 03/08/26 i 07/08/26. Gwneir hyn er mwyn galluogi gwaith atgyweirio concrit ar y strwythur oddi tano.
Ar gyfer y cau yn ystod y nos, caiff traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A40 o'r Fenni i'r gorllewin i Aberhonddu, yna i'r de ar yr A470 i Ferthyr, ac yna i'r dwyrain ar yr A465 i Frynmawr.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffic Wales ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD