M4
Dyddiad Dechrau: 15/11/2026| Dyddiad Gorffen: 26/11/2026
Bydd gwaith hanfodol i adnewyddu cymalau ar Pont Yr Hendy, Llannon ar yr M4 48-49 58, yn dechrau ddydd Sul 15fed o Dachwedd 2026 ac yn parhau tan dydd Iau 26ain o Dachwedd 2026.
Er mwyn cyflawni'r gwaith yn ddiogel, bydd angen cau'r M4 yn llwyr dros nos rhwng Cyffyrdd 48 a 49, rhwng 20:00 a 06:00.
Mae'r gwaith wedi'i drefnu fel a ganlyn:
- Ffordd ar gau tua'r gorllewin (C48 i C49): 15fed o Dachwedd 2026 a 22ain – 26ain o Dachwedd 2026, rhwng 20:00 a 06:00.
- Ffordd ar gau tua'r dwyrain (C49 i C48): 16eg – 22ain o Dachwedd 2026, rhwng 20:00 a 06:00.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos, pan fo llif y traffig yn îs, er mwyn lleihau'r tarfu ar ddefnyddwyr y ffyrdd.
Tua'r gorllewin (C48 i C49):
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio oddi ar yr M4 wrth C48 i ddilyn yr A4138 tua'r dwyrain, cyn parhau ar hyd yr A48 tua'r dwyrain ac ail ymuno â'r M4 wrth C49.
Tua'r dwyrain (C49 i C48):
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio oddi ar yr M4 wrth C49 Cyfnewidfa Pont Abraham i ddilyn yr A48 tua'r gorllewin, cyn parhau ar hyd yr A4138 tua'r de ac ail ymuno â'r M4 wrth C48.