M4 Cyffordd 32 (Coryton)
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni rhwng 20:00 a 06:00, gan ddefnyddio trefniadau cau'r ffordd fesul cam ar Gylchfan Coryton, Cyffordd 32 yr M4.
Mae mynediad i ardaloedd preswyl ac eiddo busnes oddi ar y ffyrdd sirol cyfagos wedi cael ei ystyried, a bwriedir trefnu mynediad fel a ganlyn:
• Bydd traffig sy'n teithio tua'r dwyrain ar yr M4 yn cael ei ddargyfeirio i gyfeiriad y gogledd ar yr A470, ac yn troi'n ôl ar gylchfan yr A470/A4054. Bydd mynediad i Gyffordd 32 yn parhau ar gael o'r M4 tua'r gorllewin.
• Bydd traffig sy'n teithio tua'r gorllewin ar yr M4 yn cael ei ddargyfeirio drwy Gyffordd 33 i droi'n ôl, ac yna'n defnyddio'r ffordd ymadael Cyffordd 32 i ymuno â'r A470 tua'r gogledd. Bydd mynediad i Gyffordd 32 yn parhau ar gael o'r M4 tua'r dwyrain.