Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Yr A40 Twnnel Gibraltar - Cynnal a Chadw Goleuadau

Dyddiad dechrau: 28/10/2026 | Dyddiad gorffen: 24/02/2027

Newid goleuadau a gwaith seilwaith yn gysylltiedig â Thwnnel Gibraltar yr A40 yn Nhrefynwy; bydd y gwaith yn dechrau ar 28/10/2026 am 17 wythnos. ⁠      

Gwneir y gwaith dros 17 wythnos dan y trefniadau Gwrthlif - ac eithrio 2 wythnos dros y Nadolig/y Calan.

Bydd angen cau’n gyfan gwbl ar ddyddiadau penodol ar gyfer ffordd gerbydau'r A40 tua'r de a ffordd gerbydau'r A40 tua'r gogledd yn Nhwnnel Gibraltar, i alluogi'r trefniadau Gwrthlif ac i'r Gwrthlif gael ei osod a'i dynnu.   ⁠

Y rhaglen arfaethedig o gyfyngiadau rheoli traffig:

** mae'r dyddiadau yn rhai amodol, a gallant newid

Manylion y Cyfyngiadau

Dyddiad ac amser dechrau**

Dyddiad ac amser gorffen**

Nodiadau

Mae'n bosib y gall y dyddiadau newid ond ar hyn o bryd maent wedi eu cynllunio ar gyfer: 

Cau'r ffordd gerbydau tua'r de a thua'r gogledd dros nos yn Nhwnnel Gibraltar - I osod gwrthlif tua'r de. 

Dydd Mercher. 28/10/26

Dydd Iau 29/10/26

1 Noson

Cau’r ffordd gerbydau tua'r de yn llwyr wrth Dwnnel Gibraltar - yn ystod gwrthlif tua'r de

Dydd Mercher. 28/10/26

Dydd Gwener. 18/12/26

7 wythnos

Cau'r ffordd gerbydau tua'r de a thua'r gogledd dros nos yn Nhwnnel Gibraltar - I dynnu’r gwrthlif tua'r de 

Dydd Iau. 17/12/26

Dydd Gwener. 18/12/26

1 Noson

Cau'r ffordd gerbydau tua'r de a thua'r gogledd dros nos yn Nhwnnel Gibraltar - I osod gwrthlif tua'r gogledd 

Dydd Llun. 04/01/27

Dydd Mawrth. 05/01/27

1 Noson

Cau’r ffordd gerbydau tua'r gogledd yn llwyr wrth Dwnnel Gibraltar - yn ystod gwrthlif tua'r gogledd

Dydd Llun. 04/01/27

Dydd Mercher. 24/02/27

8 wythnos

Cau'r ffordd gerbydau tua'r de a thua'r gogledd dros nos yn Nhwnnel Gibraltar - I dynnu’r gwrthlif tua'r gogledd 

Dydd Mawrth. 23/02/27

 

Dydd Mercher. 24/02/27

1 Noson

Bydd llwybrau gwyriad yn eu lle gydag arwyddion yn ystod y gwaith a ganlyn:

  • Ffordd gerbydau'r ⁠A40 tua'r De a'r Gogledd yn nhwnnel Gibraltar - Gwrthlif tua'r de i gael ei osod a'i dynnu 

  • Ffordd gerbydau'r ⁠A40 tua'r De a'r Gogledd yn nhwnnel Gibraltar - Gwrthlif tua'r Gogledd i gael ei osod a'i dynnu 

Bydd traffig ar hyd y gwyriad yn cael ei fonitro i adnabod unrhyw broblemau / mesurau lliniaru ychwanegol sydd o bosib angen eu hystyried.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD