Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A5 Pont Menai

Menai Bridge

Mae gwaith atgyweirio yn digwydd ar y bont ar hyn o bryd. Mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn ystod tymor y Gwanwyn 2027.

 

Mae cyfyngiadau i draffig mewn grym drwy gydol cyfnod y gwaith.

  • Dim ond cerbydau llai na 7.5 tunnell ac o dan 3 metr mewn uchder sy’n cael croesi’r bont.
  • Mae cerbydau dros y cyfyngiadau hyn angen defnyddio Pont Britannia.
  • Mae cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr mewn lle ar y bont ynghyd a mesurau rheoli cyflymder.

Ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth.

Gwaith ffordd sydd i ddod 
Bydd un lôn ar gau ar Bont Grog Menai rhwng 09:00 a 15:00 ar ddydd Llun 28 Medi hyd at ddydd Gwener 9 Hydref (dim gwaith ar y penwythnosau). 

Mae hyn er mwyn cyflawni gwaith cynnal a chadw arferol sydd yn rhan o’r rhaglen waith cyfredol ar y bont. 
Bydd goleuadau traffig yn eu lle i rheoli llif y cerbydau. 
Mae'r cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell yn parhau i fod yn ei le.

Dylai pob cerbyd sydd dros y cyfyngiad pwysau ac uchder fynd dros Pont Britannia (A55).
 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy⁠ X