Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru mewn glaw trwm neu lifogydd

floods-llifogydd

Gall gyrru yn ystod cyfnodau o law trwm neu lifogydd fod yn beryglus i'r gyrwyr a'r cerbyd. Mae'n hanfodol bod yn ymwybodol o sut i yrru'n ddiogel dan yr amodau hyn.

Cyn teithio, gwiriwch ein rhybuddion traffig am gyfyngiadau ffyrdd neu os yw rhai ffyrdd ar gau. Os ydych yn ymholi am ffordd sydd ddim yn gefnffyrdd, bydd angen i chi holi eich awdurdod lleol.


Cyn i chi deithio

Oes angen i chi deithio?

Er ein bod wedi arfer â glaw yng Nghymru, gall glaw trwm amharu ar eich taith. Os oes dŵr wyneb ar y ffordd, neu os nad ydych yn gallu gweld yn glir - gwiriwch a oes angen i chi deithio.

Gwiriwch rhagolygon y tywydd

Cynlluniwch a gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod y tywydd ar gyfer y daith o'ch blaen.

Sicrhewch fod eich cerbyd yn barod

Dylech sicrhau bod eich teiars gyda dyfnder digonol a phwysedd aer cywir i leihau'r tebygolrwydd o planio ar y dŵr. Yn ogystal, dylai eich sychwyr (wipers) a goleuadau fod yn gweithio.


Yn ystod eich taith

Osgoi llifogydd

Mae llifogydd ar y ffyrdd yn beryglus i chi a'ch cerbyd. Os oes dŵr ar y ffordd, ac nid yw ei ddyfnder yn amlwg, dylech ddod o hyd i ffordd arall.

Arafwch

Gall gymryd hyd at bedair gwaith fwy o amser i stopio mewn amodau gwlyb, a gallwch golli rheolaeth ar eich car yn gyflym. Sicrhewch eich bod yn arafu ac yn gadael digon o bellter rhwng eich car a'r un o'ch blaen.

Os byddwch yn torri i lawr

Mae mwy o geir yn torri lawr yn y glaw oherwydd gall lleithder achosi problemau gyda thrydan ac injans. Os byddwch yn torri i lawr, cadwch eich boned ar gau i atal unrhyw ddifrod pellach. Peidiwch ag ailgychwyn eich peiriant os ydych chi wedi gyrru trwy ddŵr dwfn.

 


 

Am adnoddau ychwanegol, dilynwch y canllawiau isod: