Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gwyntoedd Cryfion A5 Traphont Ceiriog a Thraphont A483 Dyfrdwy

a5 ceiriog viaduct
Gall gwyntoedd cryfion ar draws y draphontydd fod yn beryglus i draffig.

 

Efallai y bydd angen cyfyngiadau traffig, cyfyngiadau cyflymder is a chau’r draphont er mwyn sicrhau diogelwch gyrwyr. Cewch ragor o wybodaeth isod am sut rydym yn delio ag amodau tywydd gwyntog ar y draphontydd.
Pan fydd storm a thywydd yn wael ofnadwy, rydym yn cynghori’r cyhoedd i beidio gyrru. 

Rydym yn defnyddio rhagolygon pwrpasol ac offer monitro ar y bont i helpu i fesur cyflymder y gwynt. Mae'r rhagolygon hyn yn fwy cywir na'r rhai a ddarperir yn y cyfryngau a gallant fod yn wahanol i'r hyn a adroddir.

Gwyntoedd dros 55mya

  • Bydd y traphontydd yn cau i holl draffig.

Gwyriad

I baratoi ar gyfer y botensial o gau’r bont yn gyfan gwbl byddwn yn cau un lôn ar yr A483 rhwng C1 a C2. Rhaid gosod y mesur rheoli traffig hwn ymlaen llaw pan fydd cyflymder y gwynt yn is er mwyn diogelwch.

Gwybodaeth ddiweddaraf

Gwiriwch safle X @TraffigCymruG a'r dudalen Facebook Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth. Edrychwch ar ein gwefan i weld camerâu ffordd a rhybuddion traffig am y wybodaeth ddiweddaraf am y traphontydd.