Traffig Cymru yw'r gwasanaeth gwybodaeth traffig dwyieithog ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru.
Mae'r gwasanaeth yn hysbysu ac yn addysgu defnyddwyr y ffordd drwy rannu diweddariadau teithio dyddiol a chyngor ar ddiogelwch.
Traffig Cymru yw'r cyswllt cyhoeddus â Chanolfannau Rheoli Traffig Llywodraeth Cymru yng Nghonwy a Chaerdydd. Mae gweithrediadau'r Ganolfan Rheoli Traffig yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar reoli'r rhwydwaith ffyrdd yn effeithiol. Mae'r gweithrediadau'n cynnwys monitro amodau traffig, gosod negeseuon ar arwyddion gwybodaeth ar ochr y ffordd a darparu’r Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru.
Darperir y gwasanaeth gan yr Asiantau Cefnffyrdd yng Nghymru. Mae cydweithrediad rhwng yr Asiantau yn galluogi'r gwasanaeth i weithredu'n effeithiol o gwmpas y cloc, bob dydd o'r flwyddyn.
Mae'r ddau asiant cefnffyrdd yn rheoli, cynnal a gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae eu gwaith yn helpu i wneud teithiau yng Nghymru yn fwy diogel ac yn fwy dibynadwy.
Mae swyddogion traffig yn cael eu lleoli yng Ngogledd Cymru a De Cymru ar lwybrau strategol allweddol. Maent yn patrolio'r rhwydwaith 12 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac maent ar y rheng flaen o'ch cadw'n ddiogel.
Mae staff gweithrediadau yn cefnogi’r swyddogion traffig drwy fonitro'r rhwydwaith a gosod arwyddion i rybuddio am beryglon.