Peidiwch â chael eich dal mewn traffig - cofiwch wirio cyn i chi deithio a gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Mae llif traffig dyddiol yn cynyddu ar gyfartaledd oddeutu 15% ar yr M4 ger Caerdydd pan mae Cymru yn chwarae gartref. Gallai gwaith ffordd sydd wedi'i gynllunio dros y misoedd nesaf hefyd olygu bod y ffyrdd yn brysurach.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
-
Tȋm pêl-droed dynion Cymru yn erbyn Latfia, Dydd Mawrth, 28 Mawrth at Stadiwm Dinas Caerdydd, 19.45.
-
Gŵyl 'In It Together' 2023, Dydd Gwener - Dydd Sul, 26-28 May 2023, Margam, Port Talbot.
Beyonce, Cyngerdd 'Renaissance', Dydd Mercher i Ddydd Gwener, 17-19 Mai 2023, Stadiwm Principality
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd ar yr M4. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gyda ffyrdd neu lonydd ar gau dros nos yn unig bryd bynnag y bo modd. Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy am y gwaith ffordd ddiweddaraf yn eich ardal chi.
Nid yw hyn yn cynnwys gwaith brys nac aflonyddwch ar rwydwaith oherwydd digwyddiadau.
Cynlluniwch ymlaen llaw. Gwiriwch y wybodaeth traffig diweddaraf cyn i chi deithio. |
|
Gwiriwch eich cerbyd cyn teithio. |
|
Caniatewch amser ychwanegol i'ch siwrne. |
Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer diogelwch y cyhoedd sy'n teithio. Byddai peidio â gwneud y gwaith hwn yn arwain at y ffyrdd yn dirywio ymhellach, gan olygu y byddai ffyrdd yn cau yn ddi-rybudd, a mwy o darfu ac anghyfleuster na’r gwaith sy’n cael ei gynllunio.
Lle mae'n ddiogel gwneud hynny, bydd gwaith ffordd yn cael ei godi neu ei atal er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl yn ystod digwyddiadau arbennig.
Efallai y bydd adegau pan fyddwch yn gweld conau, arwyddion a therfyn cyflymder is mewn grym ond nid yw’n ymddangos bod neb yn gweithio. Mae hyn oherwydd gall gwaith fod yn digwydd o dan y ffordd, neu efallai mai'r rhwystr diogelwch neu'r ffordd gerbydau wedi cael eu heffeithio sy'n ei gwneud yn anniogel i ailagor y ffordd am gyfnod.