Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu’r wefan hon o eiddo Traffig Cymru a’r mathau o ddata personol a gofnodir gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) ar ran Llywodraeth Cymru.

Os bydd y polisi hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Mae adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Mae ACGCC ac ACDC yn gweithredu fel asiantau ar ran Llywodraeth Cymru - ACGCC ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yn y Gogledd a’r Canolbarth a ACDC ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn y De.

O dan y GDPR, mae ACGCC ac ACDC yn ymgymryd â rôl “Prosesydd Data” ar gyfer eu hardaloedd daearyddol ar ran Llywodraeth Cymru, sef y “Rheolydd Data”.

Fel Rheolydd Data bydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol. 

O dan y GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio technolegau blaenllaw i ddiogelu eich data a chynnal safonau diogelwch i atal unrhyw fynediad iddo heb ganiatâd.

Eich defnydd o wefan Traffig Cymru a chysylltu â Thraffig Cymru

Gwasanaeth traffig Llywodraeth Cymru yw Traffig Cymru sy’n cwmpasu’r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Tîm Traffig Cymru fydd yn ymdrin â galwadau ffôn i Traffig Cymru ar 0300 123 1213 ynghyd â negeseuon e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd eich data’n cael ei brosesu fel y disgrifir yn y polisi hwn, yn ôl natur eich cysylltiad â ni.

Pan fyddwch chi’n cysylltu â Traffig Cymru, efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol rhwng ACGCC, ACDC a Llywodraeth Cymru at ddibenion ymchwilio ac ymateb i’ch ymholiad. Efallai y bydd eich data’n cael ei rannu â phartïon eraill hefyd yn dibynnu ar natur eich cyswllt, fel y disgrifir yn nes ymlaen yn y polisi.

Mae’r wefan yn cynnwys porth ymholiadau rhyngweithiol i chi ei ddefnyddio wrth ein hysbysu am rai mathau o broblemau. Caiff yr ymholiad ei dderbyn gan ACGCC neu ACDC, ar ran Llywodraeth Cymru, yn dibynnu ar natur yr ymholiad a/neu’r lleoliad daearyddol. Os ydych am gael ymateb i’ch ymholiad, gofynnwn i chi roi eich enw a’ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Bydd y data a rowch yn cael ei drin fel y disgrifir o dan ‘ymholiadau cyffredinol’ neu ‘ryddid gwybodaeth’ yn y polisi hwn. 

Mae’r wefan yn defnyddio cwcis; fodd bynnag, nid yw’r cwcis a ddefnyddiwn yn casglu data personol. Am fwy o wybodaeth fanwl, ewch i’n polisi cwcis.

Pam mae angen eich data arnom, sut y caiff ei rannu ac am ba hyd y bydd yn cael ei gadw 

Mae Llywodraeth Cymru’n casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol fel y disgrifir yn y polisi hwn, naill ai oherwydd bod ganddi hawl neu ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny; neu i gyflawni tasg er budd y cyhoedd; neu oherwydd eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Y term cyfreithiol am hyn yw sail gyfreithlon ar gyfer prosesu. 

Efallai y bydd eich data yn cael ei rannu â sefydliadau eraill fel y’u rhestrir ar y dudalen hon, a chaiff ei gadw am y cyfnod a nodir isod, yn dibynnu ar y math o gyswllt.

Ni fydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’ch gwybodaeth ar gyfer proffilio neu wneud penderfyniadau awtomataidd. 

Ni fydd Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Pam mae angen eich data personol arnom: Os ydych chi wedi nodi eich bod am dderbyn adborth neu gael eich diweddaru gydag ymateb, byddwn yn cadw eich data personol fel y gallwn gysylltu â chi. Efallai hefyd y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth i ymchwilio i’ch ymholiad.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau storio gwybodaeth); y gwasanaethau brys.

Byddwn yn cadw eich data am: flwyddyn.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: I'n galluogi i ymateb yn ffurfiol i’ch cais Rhyddid Gwybodaeth.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau storio gwybodaeth). 

Byddwn yn cadw eich data am: flwyddyn. 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: Bydd pob galwad yn cael ei chofnodi er mwyn i ni allu adolygu cynnwys galwadau, prosesu eich cais, at ddibenion gwella’r gwasanaeth, monitro, adolygu damweiniau, rhwydweithiau ffyrdd, hyfforddi ac archwilio.

Os ydych chi wedi nodi eich bod am dderbyn adborth neu gael eich diweddaru gydag ymateb, byddwn yn cadw eich data personol fel y gallwn gysylltu â chi. Efallai hefyd y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth i ymchwilio i’ch ymholiad.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ein systemau ffôn); y gwasanaethau brys.

Byddwn yn cadw eich data am: flwyddyn. 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd. 
 

Pam mae angen eich data personol arnom: Os ydych chi’n defnyddio ffôn argyfwng wrth ymyl y ffordd ar rwydwaith ffyrdd Llywodraeth Cymru, neu os cewch eich cynorthwyo gan Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru wrth ymyl y ffordd, byddwn yn cofnodi eich manylion personol a gwybodaeth am eich cerbyd er mwyn eich helpu chi gyda’ch argyfwng. Bydd eich manylion yn cael eu cadw yn ein cofnodion rheoli damweiniau hefyd. Mae galwadau ffôn argyfwng yn cael eu cofnodi fel y gallwn ni adolygu cynnwys galwadau, ar gyfer adolygiadau o ddamweiniau ar y rhwydwaith ffyrdd, ac at ddibenion hyfforddi ac archwilio.

Mae gan bersonél a cherbydau Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru ddyfeisiau recordio fideo a sain, er budd diogelwch personol swyddogion ac i ddarparu cofnod o’u rhyngweithio â’r cyhoedd. Mae recordiadau’n debygol o gynnwys data personol a chaiff ei gadw’n unol â’r polisi cadw teledu cylch cyfyng (gweler “Teledu cylch cyfyng” isod).

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau rheoli gwybodaeth a’n systemau ffôn); y gwasanaethau brys.

Byddwn yn cadw eich data am: Os nad ydynt yn destun hawliad, cedwir galwadau ffôn argyfwng ymyl y ffordd am flwyddyn, cedwir cofnodion y system rheoli damweiniau am dair blynedd. Os yw’n destun hawliad, cedwir cofnodion fel “hawliadau trydydd parti” a “hawliadau am iawndal i ased(au) Llywodraeth Cymru” isod. Cedwir cofnodion pocediaduron Swyddogion Traffig ymyl y Ffyrdd am 7 mlynedd. Teledu cylch cyfyng Swyddogion Traffig Ymyl y Ffyrdd – gweler “Teledu cylch cyfyng” isod. 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: Er mwyn ymchwilio i’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’ch cais a hefyd i ymateb i chi gydag unrhyw ymholiadau dilynol a chanlyniad yr hawliad.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau rheoli gwybodaeth); yr Heddlu; y Gwasanaeth Tân ac Achub; yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA); eich cyfreithiwr/ein cyfreithiwr; eich asiant/ein hasiant; eich yswirwyr/aseswyr colledion; y Swyddfa Yswirwyr Moduron (MIB).

Byddwn yn cadw eich data am: Dair blynedd am anaf personol; 22 o flynyddoedd i blant dan oed; 6 blynedd am ddifrod i gerbyd neu ddifrod i eiddo. Y cyfnod cadw ar gyfer archwilio ar gyfer prif ddogfennau yw 6 blynedd.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: dyletswydd gyfreithiol; cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: Os ydych chi’n gysylltiedig â damwain lle gwnaed difrod i rwydwaith Llywodraeth Cymru, bydd eich manylion personol yn cael eu casglu er mwyn ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain. Cedwir manylion hefyd er mwyn cysylltu â chi i sicrhau ad-daliad o gostau atgyweirio rhwydwaith Llywodraeth Cymru.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau rheoli gwybodaeth); yr Heddlu; y Gwasanaeth Tân ac Achub; yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA); eich cyfreithiwr/ein cyfreithiwr; eich asiant/ein hasiant; eich yswirwyr/aseswyr colledion; y Swyddfa Yswirwyr Moduron (MIB).

Byddwn yn cadw eich data am: 22 o flynyddoedd.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: defnyddir teledu cylch cyfyng ar gyfer monitro traffig ar y rhwydwaith ffyrdd gan ystafelloedd rheoli'r ganolfan rheoli traffig. Wrth fonitro traffig yn y ffordd arferol, mae’r lefel chwyddo yn golygu nad oes modd adnabod data personol fel arfer. Fodd bynnag, fe’i defnyddir yn ystod damweiniau a sefyllfaoedd lle mae cerbydau’n torri i lawr i fonitro’r sefyllfa yn y fan a’r lle a galluogi timau’r ystafell reoli i rannu gwybodaeth ag ymatebwyr i ddamweiniau at ddibenion cydlynu. Felly gall recordiadau gynnwys data personol. Gall recordiadau gael eu defnyddio mewn ymchwiliad gan yr heddlu neu hawliadau trydydd parti (gweler uchod).

Caiff delweddau llonydd o deledu cylch cyfyng y rhwydwaith ffyrdd eu harddangos ar wefan Traffig Cymru. Ni chaiff delweddau camera eu dangos mewn sefyllfaoedd lle gall data personol fod yn weladwy megis yn ystod damweiniau neu sefyllfaoedd lle mae cerbydau’n torri i lawr.

Mae gan bersonél a cherbydau Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru ddyfeisiau recordio fideo a sain, er budd diogelwch personol swyddogion wrth ryngweithio â’r cyhoedd ac at ddibenion monitro damweiniau. Mae recordiadau’n debygol o gynnwys data personol a chânt eu cadw’n unol â’r polisi cadw ar gyfer recordiadau teledu cylch cyfyng eraill.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda: Yr Heddlu; Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau teledu cylch cyfyng). Ar gyfer hawliadau trydydd parti: yr Heddlu; y Gwasanaeth Tân ac Achub; yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA); eich cyfreithiwr/ein cyfreithiwr; eich asiant/ein hasiant; eich yswirwyr/aseswyr colledion; y Swyddfa Yswirwyr Moduron (MIB).

Byddwn yn cadw eich data am: 14 diwrnod, a drosysgrifir yn barhaus. Tair blynedd, fel sy’n ofynnol ar gyfer hyfforddiant. 22 o flynyddoedd, ar gyfer hawliadau. Yn ddi-ben-draw ymchwiliadau’r heddlu.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: Os yw coeden ar eich eiddo/tir yn cael ei hystyried yn berygl i ddefnyddwyr cefnffyrdd, byddwn yn cysylltu â chi i dynnu sylw at y broblem. Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw hefyd er mwyn cysylltu â chi i sicrhau ad-daliad o’r costau ar gyfer atgyweirio rhwydwaith Llywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi gorchymyn Adran 154.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau rheoli gwybodaeth).

Byddwn yn cadw eich data am: 15 mlynedd

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pam mae angen eich data personol arnom: I brosesu eich cais/ceisiadau am waith stryd a chadw cofnod.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag: Asiantau Cefnffyrdd; is-broseswyr sy’n gweithredu ar ran yr Asiantau Cefnffyrdd (megis darparwyr technoleg ar gyfer ein systemau rheoli gwybodaeth).

Byddwn yn cadw eich data am: 15 mlynedd

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau cyfreithiol ac mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw'r hawliau hyn. 

Mae gennych yr hawl i gael copi o'ch data personol. Rhoddir copïau o'ch data personol i chi o fewn y cyfnod statudol o fis (neu os yw darparu'ch data personol yn fater cymhleth, bydd hyn yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol o fewn tri mis). Bydd eich data personol yn cael ei ddarparu i chi am ddim, fodd bynnag, os yw'ch cais yn cael ei ystyried yn amlwg ddi-sail neu'n eithafol, codir ffi resymol. Dylech gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru i wneud cais am eich data personol. 

Mae gennych yr hawl i gael cywiro gwybodaeth amdanoch chi. Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro eich data personol os yw'n anghywir neu'n anghyflawn. Gwneir hyn o fewn mis, neu os yw'ch cais yn gymhleth, o fewn tri mis. 

Yr hawl i gael dileu data personol mewn amgylchiadau penodol: 

  • Pan nad oes angen y data personol mwyach mewn perthynas â'r diben y cafodd ei gasglu/prosesu yn wreiddiol; 
  • Pan fyddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl; 
  • Pan fyddwch yn gwrthwynebu i'r prosesu a wneir gan Llywodraeth Cymru ac nid oes budd cyfreithlon gorbwysol dros barhau i brosesu; 
  • Os cafodd y data personol ei brosesu'n anghyfreithlon; 
  • Pan fo'n rhaid dileu'r data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu
  • Pan fo'r data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â'r cynnig o wasanaethau gwybodaeth ar-lein i blentyn. 

Yr hawl i gyfyngu ar y prosesu. Pan honnir bod data yn anghywir neu pan fyddwch wedi gweithredu'r hawl i ddileu gallwch ofyn i Llywodraeth Cymru gyfyngu ar y prosesu hyd nes bo gwiriadau dilysu wedi'u cwblhau. 

Yr hawl i gludadwyedd data. Dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i gael ac ailddefnyddio eich data personol ar draws amgylchiadau gwahanol. 

Yr hawl i wrthwynebu. Yn ogystal â'r hawl i wrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol, mae gennych yr hawl i wrthwynebu'r prosesu yn seiliedig ar berfformio tasg er budd y cyhoedd/gweithredu awdurdod swyddogol (gan gynnwys proffilio), a phrosesu er dibenion ymchwil gwyddonol/hanesyddol ac ystadegau. 

Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg os oes dibyniaeth wedi bod ar eich caniatâd yn wreiddiol. 

Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau sy'n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd, gan gynnwys proffilio, sy'n cael effaith gyfreithiol arnoch chi neu sy'n effeithio arnoch mewn ffordd arwyddocaol.

Y Swyddog Diogelu Data

Os ydych yn dymuno cwyno am y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio eich data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data. 

Dyma fanylion Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ. 
E-bost: [email protected] 

 

Os nad ydych yn fodlon â'u hymateb, mae gennych hefyd yr hawl i gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth:

https://ico.org.uk/concerns
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113