Mae’r Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n gyfrifol am reoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru
Amdanom ni
Mae’r ACGCC yn rheoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae ACGCC yn gweithredu ar sail partneriaeth rhwng yr Awdurdodau Lleol Unedol Gogledd a Chanolbarth Cymru.
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Gwynedd*
- Cyngor Sir Ynys Môn**
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
* Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel Awdurdod Arweiniol y bartneriaeth
** Er bod Ynys Môn yn rhan o’r bartneriaeth, nid ydyw’n darparu gwasanaethau Cefnffyrdd
Rheoli rhwydwaith
Mae Adran Rheoli’r Rhwydwaith yn gyfrifol am fonitro o ddydd i ddydd ac am argaeledd y rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae'n cynnwys gweithredu'r ystafell rheoli'r Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, y gwasanaeth Swyddogion Traffig a chydlynu gwaith ar y priffyrdd.
Rheoli asedau
Mae’r asiantaeth yn gyfrifol am gynnal a chadw cyflwr a gwerth cefnffyrdd sy’n asedau i Llywodraeth Cymru. Mae’r asedau’n cynnwys:
- Y briffordd
- Pontydd ac adeileddau (gan gynnwys twneli)
- Cyfarpar trydanol (goleuadau stryd, croesfannau i gerddwyr, unedau goleuo, arwyddion a weithredir gan gerbydau)
- Systemau trafnidiaeth deallus
- Signalau traffig
- Rhwystrau diogelwch
- Arwyddion
- Ystadau meddal (gan gynnwys lleiniau ar ochrau ffyrdd ac ardaloedd tirlunio lle mae planhigion wedi’u plannu)
Gwaith cynnal a chadw cyfalaf
Mae cynllun cyfalaf yn gynllun sydd wedi’i ddylunio i wella rhan o’r rhwydwaith cefnffyrdd a chynyddu ei werth dros gyfnod estynedig o amser (o gymharu â chynnal a chadw’r ased presennol). Mae’n cynnwys cost caffael, contractio a gosod elfen newydd y rhwydwaith, boed hynny er mwyn amnewid asedau wedi gwisgo neu asedau wedi dod i ddiwedd eu hoes, neu fel ychwanegiad at y rhwydwaith presennol.
Gwaith cynnal a chadw arferol
Mae’r Uned Gweithredol yn gyfrifol am reoli’r rhwydwaith cefnffyrdd yn weithredol. Mae’r gweithrediadau dydd i ddydd yn hynod bwysig, i sicrhau bod safon y ffyrdd yn galluogi i bawb sy’n dymuno eu defnyddio fedru gwneud hynny’n ddiogel.
Mae defnyddioldeb y rhwydwaith yn hanfodol ac rydym yn cynnal yr amrediad o weithgareddau a ganlyn trwy ein darparwyr gwasanaeth:
- Patrolau diogelwch
- Glanhau draeniau
- Torri glaswellt
- Rheoli chwyn
- Glanhau priffyrdd
- Glanhau arwyddion
- Trwsio ffensys diogelwch
- Cynnal a chadw signalau traffig
- Cynnal a chadw goleuadau stryd
- Cynnal a chadw systemau technoleg
- Cynnal a chadw arferol – adeiladweithiau
- Cynnal a chadw arferol – twneli
- Gwasanaethu gwaeaf / graeanu rhag ofn
- Ymateb brys
- Cynnal a chadw eiddo Llywodraeth Cymru.
Rheoli busnes
Mae'r adran Rheoli Busnes yn darparu swyddogaethau cefnogi hanfodol i holl weithrediadau'r Asiantaeth. Mae’n cwmpasu rheolaeth ariannol, rheoli perfformiad contractau, hawliadau trydydd parti, cynllunio busnes, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cwsmeriaid, cefnogaeth TGCh, rheoli swyddfa a systemau rheoli integredig.
Mae tîm cyfathrebu Traffig Cymru yng Nghanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru yn cydweithio â thimau rheoli rhwydwaith yn NMWTRA a SWTRA i ddarparu gwybodaeth draffig diweddaraf ar ein llwyfannau cyhoeddus.
Mae swyddfeydd ACGCC wedi'i leoli ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae rheoli rhwydwaith yn cael ei weithredu o’r Ganolfan Rheoli Traffig yng Nghonwy.
Cyflogir staff ACGCC gan Cyngor Gwynedd. Hysbysebir pob swydd wag ar draws ein gwasanaeth ar y wefan Cyngor Gwynedd.
Mae'r swyddi canlynol yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd. Cliciwch ar y dolenni isod i ymgeisio:
Archwiliwr Dechnegydd Archwiliadau Arbenigol
Gwybodaeth y gwasanaeth
Mae’r ACGCC yn rheoli’r rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru yn y Gogledd a'r Chanolbarth. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys tua 1080 cilomedr (670 filltir) yn cynnwys twneli'r A55.
I roi gwybod am broblem ar y ffyrdd, ewch i’r tudalen Cysylltu
Mae’r gwasanaeth swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli gan ACGCC yn y Gogledd.
Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru
Os ydych chi wedi cael help Swyddog Traffig yn ddiweddar, llenwch y ffurflen hon i anfon adborth atom ni:
Mae’r ACDC yn cyflwyno swyddogaethau a ddirprwyir gan Weinidogion Cymru a ragnodwyd o dan amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf Priffyrdd 1980 a’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 mewn perthynas â gwaith cydlynu, trwyddedu a materion gorfodaeth.
Mae’r ACGCC yn cydlynu ac yn galluogi darparu gwaith cynnal a chadw a gwelliannau priffyrdd.
Mae cadwyn gyflenwi ein contract presennol yn cynnwys partneriaethau awdurdodau lleol, contractwyr fframwaith sifil ac arwyneb, ymgynghorwyr amlddisgyblaeth fframwaith a darparwyr fframwaith technoleg, mecanyddol a thrydanol.
Mae'r adran Rheoli Busnes yn datblygu ac yn cynnal Systemau Rheoli Busnes, wedi'u hardystio'n llwyddiannus gan drydydd parti cofrestredig wedi'i gymeradwyo fel corff gwirio gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS).
Mae gan yr Asiant Systemau Rheoli Ansawdd wedi'u hardystio i ISO 9001: 2015 (Rhif Tystysgrif: FS 538262).
Mae Systemau Rheoli Amgylcheddol wedi'u hardystio i ISO 14001:2015 (Rhif Tystysgrif: EMS 552018).
Mae Systemau Rheoli Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol wedi'u hardystio i ISO 45001:2018 (Rhif Tystysgrif: OHS 537501).

Mae ACGCC wedi cyflawni statws Buddsoddwyr mewn Pobl.

Perthnasol
Os ydych chi wedi cael help Swyddog Traffig yn ddiweddar, llenwch y ffurflen hon i anfon adborth atom ni