Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Datganiad hawlfraint

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth sy'n ymddangos ar y wefan hon (ac eithrio logos, mapiau a'r data a geir ynddo) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored i'w gweld ar wefan Archifau Gwladol (dolen allanol).

Rhaid ichi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â'i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os bydd unrhyw un o'r eitemau ar y safle hwn sydd dan hawlfraint y Goron yn cael ei hailgyhoeddi neu ei chopïo ar gyfer pobl eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws o ran hawlfraint (er enghraifft, Traffig Cymru © Hawlfraint y Goron 2018).  Rydym yn eich annog hefyd i greu hyperddolenni at y wefan hon.

Nid yw'r hawl i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn cynnwys deunydd ar y safle hwn y nodwyd bod gan drydydd parti hawlfraint arno. Byddai angen cael caniatâd deiliaid yr hawlfraint honno i atgynhyrchu deunydd o'r fath.

Data rhybuddion traffig ar y ffyrdd a delweddau CCTV

Os hoffech atgynhyrchu ein data rhybuddion traffig ar y ffyrdd neu ddelweddau CCTV, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r dulliau a gefnogir a ddisgrifir yn ein tudalen Datblygwyr.

Mapiau

Mae mapiau sydd wedi'u mewnosod yn ein tudalen mapiau traffig ffordd a'n tudalen mapiau teledu cylch cyfyng yn cael eu cyflenwi gan drydydd parti (Elgin). Cyhoeddir y mapiau hyn dan drwydded yn y wefan hon ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb ganiatâd Elgin fel deiliad yr hawlfraint. Ewch i'r tab gwybodaeth yn y map ar gyfer manylion am eiddo deallusol, ailddefnyddio gwybodaeth a hawlfraint data sy'n berthnasol i'r mapiau hyn.

Ni chaniateir atgynhyrchu mapiau (a'r data a geir ynddo) yn ein tudalennau Cyswllt heb ganiatâd ffurfiol gennym ni.

Ein logos

Ni all unigolion neu sefydliadau eraill ddefnyddio ein logos heb ein caniatâd ffurfiol. 

I ofyn am ganiatâd i ddefnyddio logos Traffig Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru neu Asiant Cefnffyrdd De Cymru, e-bostiwch [email protected].  

I ofyn am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru, ewch i https://beta.llyw.cymru/help/datganiad-hawlfraint (dolen allanol).

Rhaglen ffôn clyfar Traffic Wales Traffig Cymru

Mae Apple, logo Apple ac iPhone yn nodau masnach i Apple Inc.

Mae Google Play a logo Google Play yn nodau masnach i Google LLC.