Mae Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru’n gweithio yn y Gogledd a’r De ar ffyrdd strategol allweddol.
- Rydym yno i’ch helpu os byddwch yn torri i lawr neu’n gwrthdaro â char arall neu’n rhan o unrhyw ddigwyddiad.
- Byddwn hefyd yn trefnu symud cerbydau sydd wedi’u difrodi neu wedi’u gadael ac yn clirio malurion o’r ffyrdd cerbydau.
- Byddwn yn cau ffyrdd dros dro ac yn cefnogi’r heddlu yn eu dyletswyddau.
- Byddwn yn patrolio’r rhwydwaith mewn cerbydau â lifrai nodedig, wedi’u marcio fel cerbydau swyddogion traffig, â marciau gwelededd uchel.
Mae'r Swyddogion Traffig wedi'u hyfforddi i safon uchel i gyflwyno'r gwasanaeth, gan gynnwys diogelwch, ymdrin â chwsmeriaid, rheoli traffig a defnyddio technoleg. Pan fo digwyddiadau, ein cydweithwyr yn yr heddlu fydd yn ymchwilio i'r drosedd, ond rydym ni'n eu helpu drwy gydlynu adnoddau'r gwasanaethau argyfwng eraill, rheoli traffig ac ailagor ffyrdd cyn gynted ag y mae'n ddiogel i wneud hynny.
Mae Swyddogion Traffig yn cael eu hanfon o Ganolfan Rheoli Traffig y Gogledd yng Nghonwy a Chanolfan Rheoli Traffig y De yng Nghaerdydd. Mae Swyddogion Traffig yn gweithio gyda'r ystafelloedd rheoli i hysbysu defnyddwyr y ffyrdd trwy arwyddion negeseuon electronig a diweddariadau gwybodaeth Traffig Cymru gyda darparwyr adroddiadau teithio lleol.
Mae Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru’n gweithio bob dydd rhwng 07:00 ac 19:00 o'r gloch.
Yn y Gogledd, mae Swyddogion Traffig yn gofalu am:
- yr A55 o Gaergybi i ffin Cymru/Lloegr ym Mrychdyn
- yr A494/A550 o Ewloe i Gyfnewidfa Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
- yr A483/A5 yn sir Wrecsam rhwng y ffiniau Cymru/Lloegr
Yn y De, mae Swyddogion yn gofalu am:
- yr M4 o fannau talu Pont Tywysog Cymru i gyffordd 49
- yr A48M o Laneirwg i gyffordd 29 Cas-bach yr M4
- yr A4232 o Groes Cwrlwys i gyffordd 33 yr M4
- yr A470 o gylchfan Coryton i gylchfan Abercynon
- yr heol dosbarthiad deheuol (SDR) yng Nghasnewydd pan fydd yr M4 ar gau yn yr ardal honno.
Diben y Gwasanaeth Swyddogion Traffig yw ymgymryd â thasgau rheoli traffig a heolydd cyffredin gan roi mwy o amser i'r heddlu ganolbwyntio ar y gwasanaethau amddiffyn, megis mynd i'r afael â throseddau, ymchwilio i wrthdrawiadau a gorfodi'r gyfraith.
Mae Swyddogion Traffig yn delio â chyfartaledd o 250 o ddigwyddiadau bob wythnos ar y llwybrau sy'n cael eu patrolio.
Swyddogion traffig, a reolir gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru, yw wyneb cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar y briffordd a nhw sy'n ymateb i ddigwyddiadau ar rwydwaith ffyrdd strategol Cymru gyda'r nod o leihau amserau ymateb i ddigwyddiadau ac felly lleihau effaith tagfeydd ar y rhwydwaith. Prif rôl y Swyddog Traffig fydd gwneud y man yn ddiogel cyn asesu gofynion ymateb eilaidd a briffio'r gwasanaethau brys lle bo angen.
Gyda'r pwerau i atal traffig a chau ffyrdd, lonydd a cherbytffyrdd, cyfeirio a gwyro traffig a cherddwyr, gosod arwyddion traffig a symud cerbydau wedi'u gadael neu rai wedi torri, mae Swyddogion Traffig yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelwch ffyrdd Cymru.
Mae Swyddogion Traffig yng Nghymru yn gyfrifol am hyrwyddo ac adeiladu perthynas waith dda gyda'r holl randdeiliaid allweddol i gyflawni nodau cyffredin sy'n gysylltiedig â lleihau tagfeydd yn sgil damweiniau.
Rôl y Swyddog Traffig yw ymdrin â damweiniau arferol gan gynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd nad ydynt yn cynnwys anafiadau ar y rhwydwaith ac i gynorthwyo'r gwasanaethau brys wrth ymdrin â rheoli traffig mewn damweiniau mwy difrifol.
Mae'r gwasanaeth yn ceisio lleihau unrhyw amharu ar ddefnyddwyr y ffyrdd trwy ddarparu ymateb diogel a phrydlon i ddamweiniau er mwyn rheoli traffig, asesu gofynion ar y safle o ran clirio malurion a difrod/atgyweirio seilwaith, cysylltu â’r gwasanaethau brys lle bo angen a lleddfu tagfeydd cyn gynted ag y bo modd.
Mae rôl Swyddog Traffig yn cynnwys:
- rheoli damweiniau pan na fydd rhywun wedi marw, wedi'i anafu ac nad ydynt yn cynnwys gweithgarwch troseddol posibl
- cefnogi'r heddlu pan fyddant yn rheoli damweiniau, yn enwedig pan fyddant yn rheoli traffig
- patrolau gweladwy iawn i gysuro'r cyhoedd
- ymdrin â damweiniau sy'n cynnwys cerbydau sydd wedi'u difrodi/gadael neu sydd wedi torri i lawr
- cau heolydd fesul cam dros dro i ddal traffig yn ôl er mwyn galluogi symud malurion, rheoli traffig dros dro a dibenion eraill
- cau heolydd dros dro
- clirio malurion, anifeiliaid ac eiddo y deuir o hyd iddo ar y rhwydwaith
- adnabod diffygion a gwelliannau posibl i'r rhwydwaith
- monitro gwaith heol
- trefniadau cynllunio ar gyfer digwyddiadau arbennig arfaethedig
- addysgu defnyddwyr heolydd
Oddi ar y ffordd yn y Canolfannau Rheoli Traffig, mae gweithredwyr ystafell reoli awdurdodedig yn gyfrifol am osod arwyddion a signalau ac ateb ffonau brys ochr y ffordd.
Cychwynnodd Llywodraeth Cymru’r gwasanaeth i wella teithiau i yrwyr, i wneud ffyrdd yn fwy diogel a chaniatáu i'r heddlu ganolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau. Mae'r buddion yn cynnwys:
- llai o dagfeydd sy'n ymwneud â damweiniau
- amseroedd teithio mwy dibynadwy
- llai o ddamweiniau eilaidd - damweiniau sy'n digwydd ger damwain arall neu waith heol
- rhyddhau amser yr heddlu i ganolbwyntio ar weithgarwch craidd, megis mynd i'r afael â throseddau a gorfodi'r gyfraith
- gwneud y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn fwy diogel
Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cymru a Lloegr) wedi galluogi trosglwyddo rhai pwerau i Swyddogion Traffig.
Diben y pwerau hynny yw:
- stopio traffig a chau heolydd, lonydd a lonydd cerbydau;
- cyfarwyddo a dargyfeirio traffig a cherddwyr;
- gosod a gweithredu arwyddion traffig;
- rheoli traffig ger arolygon traffig. Mae'r rhain yn cynnwys stopio cerbydau a gofyn i yrwyr am eu teithiau. Mae'r wybodaeth o'r arolygon hyn yn cael ei defnyddio i ddatblygu a chynllunio buddsoddi yn y system drafnidiaeth yn y dyfodol;
- symud neu drefnu symud cerbydau sydd wedi'u gadael neu sydd wedi torri i lawr ac yn rhwystr neu'n berygl diogelwch ar y rhwydwaith; ac
- awdurdodi eithriadau a llacio'r rheoliadau traffordd i ddefnyddwyr heolydd eraill, megis defnyddio'r llain galed.
Nid oes gan Swyddogion Traffig bwerau i arestio pobl. Nid oes ganddynt bwerau gorfodi ac ni chaiff eu cerbydau eu hystyried yn gerbydau brys. Fodd bynnag, mae methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau neu arwydd Swyddog Traffig yn drosedd a allai arwain at ddirwy o hyd at £1,000, ardystiad trwydded yrru neu waharddiad gyrru.
Mae ymosod ar Swyddog Traffig neu rwystro un neu ffugio bod yn un yn fwriadol yn drosedd a gallai arwain at ddirwy o hyd at £5,000 neu gyfnod yn y carchar.
Mae Swyddogion Traffig yn ymdrin â phob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys pobl wedi’u hanafu mewn rhai damweiniau. Efallai mai ni yw’r rhai cyntaf i gyrraedd a bod angen i ni wneud y lleoliad yn ddiogel cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni’n hawdd iawn ein gweld.
Mae cerbydau Swyddogion Traffig yn hawdd i'w hadnabod gyda’u lliwiau melyn a du. Er mwyn cyflawni eu dyletswyddau, caniateir i Swyddogion Traffig ddefnyddio goleuadau rhybudd coch ac ambr, a awdurdodwyd dan orchymyn arbennig Deddf Traffig Ffyrdd 1988, adran 44.
Ni chaiff y Gwasanaeth Swyddogion Traffig ei ystyried yn wasanaeth brys ac ni chaniateir i Swyddogion Traffig yrru’n gyflymach na'r terfyn cyflymder wrth ymateb i ddigwyddiad. Fodd bynnag, byddem yn gofyn i yrwyr adael iddynt fynd heibio os ydynt yn eu gweld ar y briffordd am eu bod efallai'n mynd i safle damwain sy'n achosi tagfeydd.
Cyn mynd allan ar yr heol, ar ddechrau pob sifft, cynhelir gwiriad. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Petrol - neu ddiesel yn ein hachos ni - oes digon o danwydd yn y cerbyd?
- Olew - mae gwiriad cyflym bob amser yn ddoeth
- Dwr - rydym yn gwirio'r oerydd a'r hylif golchi ac mae'n syniad da cludo rhywfaint o ddwr yfed hefyd.
- Difrod - gwiriad gweledol cyflym o'r gwaith corff i sicrhau bod popeth 'yn iawn.
- Trydan - a yw'r holl oleuadau a rheolyddion trydanol yn gweithio'n iawn? Mae'n arbennig o bwysig i Gerbydau Swyddogion Traffig, gyda'n goleuadau a'n harwyddion matrics ychwanegol.
- Rwber - rydym yn gwirio'r teiars - nhw yw'r unig gyswllt sydd gan 'y cerbyd â'r heol ac maent yn hanfodol ar gyfer gyrru a stopio'n ddiogel
Mae Swyddogion Traffig yn patrolio ar gyflymder traffig yn lôn un ac ar draffyrdd tawelach, heb fynd yn gyflymach na 60mya. Ni chaniateir i Swyddogion Traffig dorri'r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol. Wrth gadw at yr arfer hwn, mae'n rhoi cydbwysedd rhwng peidio ag arafu traffig tra'n gallu gweld cerbyd sydd wedi torri i lawr ar y llain galed a stopio ein cerbyd yn ddiogel ar y pellter cywir.
Efallai y byddwch yn sylwi ar gerbydau Swyddogion Traffig sydd wedi'u parcio ar lwyfannau gwylio, sy'n debyg i gerbydau'r heddlu a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA). Mae defnyddio'r rhan hon o'r seilwaith priffyrdd neu leoliadau strategol eraill megis trosbontydd yn galluogi ein timau i fod yn gorfforol bresennol, gyda hynny'n rhoi hwb i sicrwydd y cyhoedd. Mae hefyd yn caniatáu i'n patrolau fod yn y fan a'r lle, lle y gallant gael yr effaith bositif orau wrth ymateb i ddigwyddiadau.
Pan fo cerbyd wedi torri i lawr ar y ffyrdd sy’n cael eu patrolio, efallai y bydd Swyddogion Traffig yn stopio i helpu yn ystod eu patrolau, neu efallai y byddant yn cael eu hanfon i leoliad os byddwn yn derbyn galwad ffôn argyfwng o ochr y ffordd.
Nid oes angen i ni fynd i safle pob cerbyd sydd wedi torri i lawr ac aros yno. Mae'n dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, blaenoriaeth gwaith ac a oes angen cefnogaeth ar y gyrrwr, er enghraifft, am ei fod yn agored i niwed, am fod plant ifanc yn y car neu mae'r cerbyd ar ran o'r draffordd heb oleuadau.
Os yw cerbyd wedi torri i lawr ar gefnffordd, ar glirffordd neu draffordd strategol a bod Swyddogion Traffig yn methu ei symud, gallant ofyn i'r heddlu ddefnyddio eu pwerau achub cerbydau i symud y cerbyd i leoliad mwy diogel. Rydym ni'n gwneud hyn er mwyn sicrhau diogelwch gyrwyr, defnyddwyr eraill y ffordd ac i leihau tagfeydd yn yr ardal lle mae'r cerbyd wedi torri i lawr.
Cau heol fesul cam dros dro yw pan rydym yn defnyddio Cerbydau Swyddogion Traffig i arafu'r modurwyr dilynol yn raddol ac yna eu stopio dros dro i roi digon o amser i'r gwaith cynnal a chadw gael ei wneud, neu i falurion damwain gael eu clirio'n ddiogel. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i ddefnyddwyr ffyrdd gydymffurfio â negeseuon ar arwyddion cerbydau Swyddog Traffig.
Os bydd Swyddogion Traffig yn cyrraedd damwain gyntaf a gweld bod angen y gwasanaethau brys, gallwn ddarparu gwybodaeth gyflym a chywir iddynt i'w helpu i ymateb yn briodol. Mae Swyddogion Traffig yn darparu amgylchedd gwaith diogel ar y briffordd i'r gwasanaethau brys gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol.
Mae penderfynu ai Swyddogion Traffig neu'r heddlu ddylai ymateb i ddigwyddiad yn dibynnu pwy sydd agosaf at y ddamwain. Mae gan gerbydau Swyddog Traffig oleuadau ambr ac ni chaniateir iddynt yrru’n gyflymach na'r terfyn cyflymder. Bydd pob digwyddiad yn cael ei asesu a bydd yr adnoddau mwyaf priodol yn cael eu hanfon. Mae pob gwasanaeth heddlu’n penderfynu sut maent yn defnyddio eu hadnoddau eu hunain.
Ger ddigwyddiad, gall cerbydau Swyddogion Traffig fod wedi’u parcio ar ongl yn wynebu’r gerbytffordd. Yr enw ar y ffordd mae Cerbydau Swyddogion Traffig ar y llain galed tra'u bod ar safle damwain yw cyfeiriadedd cerbyd neu 'gwyro' ac yn gyffredinol mae tri opsiwn y gellir eu mabwysiadu. Y rhain yw:
- gwyro i mewn - dyma pan fydd blaen y cerbyd yn wynebu ymyl y ffordd
- gwyro allan - pan fydd blaen y cerbyd yn wynebu'r lôn gerbydau
- yn yr un llinell - pan fydd y cerbyd yn gyfochrog â'r lôn gerbydau.
Pan fyddant ar safle damwain, mae Swyddogion Traffig wedi'u hyfforddi i gynnal asesiad risg i bennu'r opsiwn gwyro mwyaf priodol i'w fabwysiadu er mwyn ymdrin â'r ddamwain.
Bydd Swyddogion Traffig yn gosod conau a goleuadau, os oes eu hangen, i wella gweladwyedd ein cerbydau ac i ddarparu man gwaith diogel a gwybodaeth glir i'r gyrwyr sy'n dod atynt. Mae hyn yn helpu i osgoi gwrthdrawiad rhwng ein cerbydau, ein staff ac aelodau'r cyhoedd rydym yn eu helpu a cherbydau eraill. Dylai gyrwyr bob amser gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a roddir gan Swyddogion Traffig yn y sefyllfaoedd hyn, gan ein bod yno i wella diogelwch defnyddwyr y ffordd.
Ar gyfer swyddi gwag yn y Gogledd, ewch i’r wefan Cyngor Gwynedd.
Ar gyfer swyddi gwag yn y De, ewch i'r wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.