Drwy ddod i mewn i'r wefan hon a'i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o'r dyddiad y'i defnyddir am y tro cyntaf.
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer traffig. Darperir gwasanaeth Traffig Cymru gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC). Yn y telerau ac amodau hyn a thrwy'r wefan hon drwyddi draw (oni nodir yn wahanol), mae “rydym” neu “ni” yn cyfeirio at yr asiantaethau sy'n darparu gwasanaeth gwybodaeth Traffig Cymru ar y cyd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ACGCC ac ACDC.
Ymwadiad cynnwys
Mae pob ymdrech wedi ei gymryd i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ary tudalennau hyn. Fodd bynnag, darperir y wybodaeth hon YN LLWYR ar y sail bod Llywodraeth Cymru, ei gweithwyr, asiantwyr, cynrychiolwyr a phawb arall sydd yn ymwneud ag ysgrifennu, golygu, cymeradwyo, cyhoeddi neu unrhyw waith arall yn ymwneud a'r deunydd:
- Yn ymwadu pob cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad, gwall trwy esgeulustod gwaith hwyr neu unrhyw annigonolrwydd, diffyg, neu wall yn ymwneud a'r wybodaeth; ac
- (heb gyfyngu (1) uchod) yn diystyru unrhyw atebolrwydd, yn cynnwys esgeulustod ar ran unrhyw un a phob un ohonynt i unrhyw berson neu endid sydd yn dewis dibynnu ar y wybodaeth; ac
- yn methu sicrhau y bydd yr holl wybodaeth yn ddwyieithog lle mae'r wefan yn dibynnu ar ddata neu systemau cwmnïau allanol/3ydd parti.
Mae gwybodaeth fyw sy'n cael ei chreu gan systemau ein canolfan rheoli traffig ac yn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael ei chynhyrchu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mewn adrannau o'n gwefan sy'n dibynnu ar ddata neu systemau trydydd partϊon, rydym yn ceisio cyfieithu cymaint o'r data â phosibl er mwyn ei chyflwyno'n ddwyieithog, ond gall rhai elfennau fod ar gael yn Saesneg yn unig.
Gwybodaeth am y rhwydwaith ffyrdd
Mae Traffig Cymru yn darparu gwybodaeth am y traffig ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru. Cliciwch yma i weld map o'n gwybodaeth am y ffyrdd. Mae ffyrdd lleol yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol. Mae priffyrdd a chefnffyrdd yn Lloegr yn cael eu rheoli gan Highways England.
Mae ein map traffig ffyrdd, sy'n cael ei gyflenwi gan Elgin, yn cynnwys mathau gwahanol o wybodaeth am y traffig gan rwydwaith ffyrdd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ledled Cymru a rhwydwaith ffyrdd Highways England. Mae manylion llawn y wybodaeth am ffyrdd a'r data a gyhoeddir yn cael eu disgrifio ym mhanel gwybodaeth y map.
Mae ein tudalen rhybuddion traffig ffordd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan ganolfannau rheoli traffig Llywodraeth Cymru a gan Highways England, hyd at 20 milltir y tu hwnt i ffin Cymru a Lloegr.
Mae ein tudalennau teledu cylch cyfyng yn dangos lluniau o rwydwaith ffordd Llywodraeth Cymru yn unig.
Digwyddiadau traffig ar y ffyrdd
Noder na fydd rhybudd traffig yn cael ei gyhoeddi o reidrwydd os nad oes disgwyl i effeithiau digwyddiad bara mwy nag 20 munud.
Rydym yn ceisio darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau ar ffyrdd lleol sy'n effeithio ar y rhwydwaith cefnffyrdd, ond ni allwn warantu ei chywirdeb.
Gwaith ffordd a digwyddiadau wedi'u cynllunio
Mae'n bosibl y bydd dyddiadau arfaethedig sydd wedi'u cyhoeddi yn newid ar fyr rybudd am resymau gwahanol, fel amodau tywydd gwael. Rydym yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth am waith arfaethedig yn gywir, ond mae'n bosibl na fyddwn yn gallu cyhoeddi newidiadau hwyr bob amser.
Mae'n bosibl na fydd gwybodaeth am waith a digwyddiadau arfaethedig yn y dyfodol ar gael ar gyfer rhwydweithiau ffyrdd lleol.
Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu'r holl wybodaeth gan drydydd partϊon, a gall gael ei dileu unrhyw bryd ac heb unrhyw rybudd.
Llwybrau dargyfeirio
Ar gyfer achosion wedi'u cynllunio ac heb eu cynllunio o gau ffyrdd sy'n effeithio ar rwydwaith ffyrdd Llywodraeth Cymru, rydym yn ceisio cyhoeddi llwybr y dargyfeiriad yn y map traffig ffyrdd. Rydym wrthi'n datblygu'r agwedd hon ar ein gwasanaeth ac mae'n bosibl na fyddwn yn gallu cyhoeddi llwybr y dargyfeiriad ar-lein bob amser. Mae arwyddion ffordd yn parhau i gael eu defnyddio wrth ymyl y ffordd i ddangos llwybr y dargyfeiriad i ddefnyddwyr ffordd. Rydym yn gweithio gyda'n darparwyr mapiau, Elgin, i rannu gwybodaeth am lwybrau dargyfeiriadau â phartneriaid yn y diwydiant trafnidiaeth lle bo hynny'n bosibl.
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Traffig Cymru
Rydym yn gweithredu nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu gwybodaeth am draffig, y gwaith a wnawn ac i hyrwyddo/cefnogi ymgyrchoedd sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.
Mae ein cyfrifon yn cael eu monitro rhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, efallai y bydd yr amserau hyn yn newid oherwydd damweiniau, digwyddiadau a thywydd garw.
Yn anffodus ni allwn ymateb i bob ymholiad a neges a dderbyniwn trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol, ond byddwn yn ceisio ymateb i gymaint ag y gallwn. Rydym yn croesawu adborth, syniadau a chyfraniadau gan ein holl ddilynwyr am y gwaith rydym yn ei wneud.
Gwybodaeth am hawlfraint
I weld ein polisi ar hawlfraint, ewch i'n datganiad Hawlfraint.
Hypergysylltu
Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon hefyd i ddefnyddwyr greu cysylltiadau hyperdestun â'r wefan hon. Dylai tudalennau Traffig Cymru gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.
Os hoffech gynnwys tudalennau gwe Traffig Cymru mewn safle porth, cysylltwch â ni gyda'ch enw, manylion cyswllt a disgrifiad o'ch safle porth .
Os hoffech atgynhyrchu ein data rhybuddion traffig ar y ffyrdd neu ddelweddau CCTV, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r dulliau a gefnogir a ddisgrifir yn ein tudalen Datblygwyr .
Os hoffech arddangos rhif ffôn llinell wybodaeth Traffig Cymru, dangoswch ef fel "Llinell wybodaeth Traffig Cymru 0300 123 1213". Peidiwch â chynnwys rhifau pellach o'n dewislen ffôn rhyngweithiol, gan fod y dewisiadau hyn yn gallu newid.
Gwefannau cysylltiedig
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig ac nid yn cytuno o reidrwydd â'r safbwyntiau a fynegir ar y gwefannau hynny. Nid yw'r ffaith bod gwefan wedi'i rhestru yn golygu ein bod yn ei chymeradwyo. Ni allwn warantu y bydd y dolenni'n gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau hyn.
Diogelu rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae'n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio'r gwefannau hyn.
Ymwadiad
Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau gwefan Traffig Cymru (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu 'fel y maent' heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu'n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu'r gweinydd sy'n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu'n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy'n deillio neu sy'n gysylltiedig â'r defnydd o wefan Traffig Cymru.
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.