Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Polisi Iaith Gymraeg Traffig Cymru

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth traffig a gwaith ffordd ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.

Cyhoeddir yr holl gynnwys a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru yn ddwyieithog yn unol â'n dyletswyddau statudol dan Safonau'r Gymraeg. Fodd bynnag, darperir yr elfennau mapiau gan drydydd partïon ac fe'u darperir yn unol â'u gofynion eu hunain ac felly nid ydynt yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru.

Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwyr trydydd parti i gyflenwi'r wybodaeth hon yn ddwyieithog yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae diweddariadau traffig dwyieithog ar gyfer digwyddiadau a gwaith ffordd mawr ar gael ar ffurf testun ar y dudalen Rhybuddion Traffig a thrwy fformatau eraill.