Mae nifer o fesurau diogelwch i helpu pobl i ddod allan o dwneli yn ddiogel yn ystod digwyddiadau ac i gynorthwyo'r gwasanaethau brys. Dyma rai awgrymiadau syml i helpu gwneud eich teithiau mewn twneli yn fwy diogel.
Sut i aros yn ddiogel wrth yrru mewn twnnel
- Daliwch i symud: Oni bai ei fod yn argyfwng, peidiwch â stopio y tu mewn i'r twnnel. Mae'n helpu i gadw traffig yn symud.
- Gostyngwch eich prif oleuadau.
- Cadwch at y terfyn cyflymder: Cadwch i bob cyfyngiad cyflymder ar y ffordd tuag at a thrwy'r twnnel – cymerwch sylw gallai'r rhain newid.
- Pellter diogel: Cadwch bellter diogel o'r cerbyd o'ch blaen bob amser. Ar gyfer ceir, gadewch fwlch o leiaf 2 eiliad. Mae angen bwlch o 4 eiliad ar gyfer gerbydau mwy.
- Dilynwch gyfarwyddiadau: Osgowch droi neu droi yn ôl oni bai eich bod yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan yr Heddlu neu Swyddog Traffig. Mae hyn yn atal dryswch ac yn cadw pawb yn ddiogel.
- Byddwch yn wyliadwrus: a gwyliwch am unrhyw arwyddion fel signalau croes x coch neu wrth yrru drwy'r twnnel. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau brys yn brydlon i ddiogelu eich hun ac eraill.
Deall y groes goch X mewn twneli
- Cofiwch y groes X goch: Os gwelwch lôn wedi'i marcio â chroes goch, peidiwch â gyrru ynddi. Mae’r lôn ar gau am resymau diogelwch, ac mae yn erbyn y gyfraith i'w anwybyddu.
- Rhesymau dros y groes X goch: Weithiau, defnyddir y groes x goch yn gynnar i helpu cerbydau brys neu i arwain gyrwyr yn ôl i'r draffordd o ardaloedd brys. Gwnewch le mewn traffig fel y gall eraill symud i lonydd agored.
- Arhoswch am arwyddion: Arhoswch am arwyddion sy'n dangos bod y lôn sydd wedi cau ar agor eto. Efallai y byddant yn dangos terfynau cyflymder neu pan fydd y cyfyngiad yn dod i ben. Hyd yn oed os ydych chi wedi pasio problem, peidiwch â defnyddio lôn sydd wedi cau gan y gall mwy o broblemau bod o'ch blaen.
Beth i'w wneud os rydych chi'n torri i lawr neu'n mewn digwyddiad mewn twnnel?
- Defnyddiwch eich goleuadau rhybudd: Os ydych chi'n cael trafferth, trowch eich goleuadau rhybudd ymlaen i ddangos perygl.
- Parciwch yn ddiogel: Stopiwch eich cerbyd ar yr ochr chwith a diffoddwch yr injan. Cadwch yr allwedd neu’r ffob yn y car fel gall asiantau adfer ei symud.
- Byddwch yn ofalus: Cadwch lygad am gerbydau eraill. Ceisiwch adael eich cerbyd o'r drws sydd y pellach i ffwrdd o’r traffig. Dylai teithwyr wneud yr un peth. Os na allwch adael eich car, ffoniwch 999 am help.
- Defnyddiwch Bwyntiau SOS: Defnyddiwch ffonau brys bob 100 metr yn y twnnel i ofyn am help. Cadwch draw o draffig a pheidiwch byth â chroesi'r ffordd.
- Gwrandewch a dilynwch: Cymerwch sylw o gyhoeddiadau a chyfarwyddiadau a ddarlledir. Dilynwch yr hyn y mae gweithredwr y twnnel yn ei ddweud wrthych.
Beth i'w wneud os bydd tân yn y twnnel?
- Mwg neu dân o'ch blaen: Os gwelwch fwg neu dân yn y twnnel o'ch blaen, peidiwch â mynd i mewn. Trowch drosodd i'r chwith, trowch eich goleuadau rhybudd ymlaen.
- Camau gwacáu: Os oes mwg neu dân o'ch blaen unwaith y byddwch yn y twnnel, stopiwch ar y chwith, diffoddwch yr injan a gadewch eich cerbyd. Dilynwch yr arwyddion i gerdded allan o'r twnnel tuag at y fynedfa agosach. Arhoswch yn y pwynt gwacau wedi'i farcio y tu allan am help.
- Mwg neu dân y tu ôl: Os ydych chi'n gweld mwg neu dân y tu ôl i chi, daliwch i yrru allan o'r twnnel a pheidiwch â throi'n ôl.
- Cerbyd ar dân: Gyrrwch allan os yn bosib. Os na allwch adael y twnnel, stopiwch ar y chwith, diffoddwch yr injan a gadewch. Dilynwch yr arwyddion gwacáu i adael y twnnel ac aros y tu allan.
- Defnyddiwch Ffonau SOS: Galwch am help gan ddefnyddio'r ffonau SOS yn y pwynt gwacau y tu allan i'r twnnel.
- Gwrando a Gweithredu: Dilynwch gyfarwyddiadau gan weithredwr y twnnel trwy gyhoeddiadau.
- Diffoddwyr Tân ar gael: Mae diffoddwyr tân wrth ymyl paneli brys yn y twneli i'w defnyddio os oes angen.
Cynnwys cysylltiedig