Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Mae’r Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n gyfrifol am reoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd strategol yn Ne Cymru..

Amdanom ni

Mae’r ACDC yn rheoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd strategol yn Ne Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

Rheoli rhwydwaith

Mae Adran Rheoli’r Rhwydwaith yn gyfrifol am fonitro o ddydd i ddydd ac am argaeledd y rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae'n cynnwys gweithredu'r ystafell rheoli'r Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, y gwasanaeth Swyddogion Traffig a chydlynu gwaith ar y priffyrdd.

Rheoli asedau

Mae’r asiantaeth yn gyfrifol am gynnal a chadw cyflwr a gwerth cefnffyrdd sy’n asedau i Llywodraeth Cymru. Mae’r asedau’n cynnwys:

  • Y briffordd
  • Pontydd ac adeileddau (gan gynnwys twneli)
  • Cyfarpar trydanol (goleuadau stryd, croesfannau i gerddwyr, unedau goleuo, arwyddion a weithredir gan gerbydau)
  • Systemau trafnidiaeth deallus
  • Signalau traffig
  • Rhwystrau diogelwch
  • Arwyddion
  • Ystadau meddal (gan gynnwys lleiniau ar ochrau ffyrdd ac ardaloedd tirlunio lle mae planhigion wedi’u plannu)

Cynllun cyfalaf

Mae cynllun cyfalaf yn gynllun sydd wedi’i ddylunio i wella rhan o’r rhwydwaith cefnffyrdd a chynyddu ei werth dros gyfnod estynedig o amser (o gymharu â chynnal a chadw’r ased presennol). Mae’n cynnwys cost caffael, contractio a gosod elfen newydd y rhwydwaith, boed hynny er mwyn amnewid asedau wedi gwisgo neu asedau wedi dod i ddiwedd eu hoes, neu fel ychwanegiad at y rhwydwaith presennol.

Gweithrediadau’r Ardal

Mae’r Timau Ardal yn gyfrifol am weithredu a chyflwyno rhaglenni cynnal a chadw rheolaidd a chylchol trwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda Darparwyr Gwasanaeth yr Asiantaeth.

Prif ddyletswydd arall y timau Ardal yw gweithredu ei swyddogaethau dirprwyedig ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni gofynion Deddf Priffyrdd 1980 a’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd mewn cysylltiad â chydlynu, cytuno a gorfodi materion yn ymwneud â’r priffyrdd.

Rheoli busnes

Mae'r adran Rheoli Busnes yn darparu swyddogaethau cefnogi hanfodol i holl weithrediadau'r Asiantaeth. Mae’n cwmpasu rheolaeth ariannol, rheoli perfformiad contractau, Hawliadau Trydydd Parti, cynllunio busnes, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Cwsmeriaid, cefnogaeth TGCh, rheoli swyddfa a systemau rheoli integredig.

Rheolir yr Asiantaeth o’i phencadlys yn y Parc Busnes Llandarsi sydd oddi ar Gyffordd 43 yr M4. Caiff ei chefnogi gan swyddfeydd gweithredu rhanbarthol yn San Clêr a Malpas (Casnewydd). Mae rheoli rhwydwaith yn cael ei weithredu o’r Ganolfan Rheoli Traffig yng Nghaerdydd.

Cyflogir staff ACDC gan Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Hysbysebir pob swydd wag ar draws ein gwasanaeth ar y wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Sgroliwch i weld y swyddi gwag a chliciwch ar deitlau'r swyddi i wneud cais.

 

Gwybodaeth y gwasanaeth

Mae’r ACDC yn rheoli’r rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru yn y De. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys tua 436 cilomedr o gefnffyrdd a 178 cilomedr o draffyrdd.

I roi gwybod am broblem ar y ffyrdd, ewch i’r tudalen Cysylltu

Gweld map y rhydwaith

Mae’r gwasanaeth swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli gan ACDC yn y De.

Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru

Os ydych chi wedi cael help Swyddog Traffig yn ddiweddar, llenwch y ffurflen hon i anfon adborth atom ni:

Arolwg Swyddogion Traffig

Mae’r ACDC yn cyflwyno swyddogaethau a ddirprwyir gan Weinidogion Cymru a ragnodwyd o dan amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf Priffyrdd 1980 a’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 mewn perthynas â gwaith cydlynu, trwyddedu a materion gorfodaeth.

Gwybodaeth am waith stryd a llwythau annormal

Mae’r ACDC yn cydlynu ac yn galluogi darparu gwaith cynnal a chadw a gwelliannau priffyrdd.

Mae ein cadwyn gyflenwi yn cynnwys partneriaethau awdurdodau lleol, contractwyr fframwaith, ymgynghorwyr fframwaith a darparwyr cymorth technoleg.

Mae'r adran Rheoli Busnes yn datblygu ac yn cynnal Systemau Rheoli Integredig, wedi'u hardystio'n llwyddiannus gan drydydd parti cofrestredig wedi'i gymeradwyo fel corff gwirio gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS). Cwmpas y system yw 'Rheoli'r Asiant Cefnffordd yn Ne Cymru'. Rhif adnabod ein tystysgrif gyda Chofrestr Lloyd's yw 10235347.

Mae gan yr Asiant Systemau Rheoli Ansawdd wedi'u hardystio i ISO 9001: 2015 a'r Cynlluniau Sector Priffyrdd Cenedlaethol (fel bo'r angen).

Mae Systemau Rheoli Amgylcheddol wedi'u hardystio i ISO 14001:2015.

Polisi amgylcheddol ACDC

Mae Systemau Rheoli Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol wedi'u hardystio i ISO 45001:2018.

Perthnasol