.
Crëwyd y rhwydwaith cefnffyrdd gan Ddeddf Cefnffyrdd 1936. Fe’i diffiniwyd y pryd hwnnw gan y Gweinidog Trafnidiaeth fel rhwydwaith ffyrdd ym Mhrydain Fawr sy’n cynnwys ‘system genedlaethol o ffyrdd ar gyfer trafnidiaeth drwodd’ a ‘ffyrdd o bwysigrwydd cenedlaethol’.
Yn 1998 diffiniwyd hwy yn ‘Gyrru Cymru Ymlaen’ fel system genedlaethol o ffyrdd strategol yn cynnig:
- Cysylltiadau â phrif ganolfannau poblogaeth
- Ffyrdd allweddol i gyfnewidfeydd cysylltu pwysig
- Cysylltiadau o ardaloedd ymylol i’r canol
- Cysylltiadau trawsffiniol allweddol i rwydwaith Lloegr
- Cysylltiadau â gweddill Ewrop
Mae’r rhwydwaith cefnffyrdd yn darparu prif wythiennau trafnidiaeth y wlad, gan chwarae rôl strategol yn adeiladwaith economaidd a chymdeithasol Cymru.
Mae traffyrdd a Ffyrdd Arbennig yn fathau o gefnffyrdd, a'r prif wahaniaeth yw mai dim ond dosbarthiadau penodol o gerbydau modur gaiff eu defnyddio. Ni all cerddwyr, beicwyr a cheffylau wneud hynny.
Yn dilyn diffiniadau 1998 prif swyddogaethau’r rhwydwaith cefnffyrdd yw:
- Darparu cysylltiadau rhwng canolfannau poblogaeth, diwydiant, ardaloedd twristiaid a chymunedau pwysig.
- Hyrwyddo symud pobl a nwyddau yn ddiogel, sicr, rhagfynegol a chyflym trwy Gymru.
- Darparu mynediad i’r prif borthladdoedd, meysydd awyr, gorsafoedd trenau a bysiau.
- Darparu cysylltiadau trawsffiniol.
- Bod yn rhan o Rwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd.
Mae’r rhwydwaith cefnffyrdd yn cyflawni rôl hanfodol yn lles economaidd a chymdeithasol Cymru. 5% yn unig o rwydwaith y ffyrdd i gyd ydyw ond mae mwy na hanner yr holl draffig sy’n defnyddio priffyrdd yng Nghymru yn defnyddio’r rhwydwaith cefnffyrdd.
Ceir traul yn sgil yr holl draffig yma ac mae’n bwysig gwneud gwaith rheolaidd a brys ar y ffyrdd i
- Gadw’r rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr da
- Gwarchod diogelwch defnyddwyr y ffyrdd
- Lleihau’r angen am waith cynnal a chadw drud yn y dyfodol
Dyma’r math o weithgareddau rheolaidd a wneir i ddiogelu’r rhwydwaith:
- Atgyweiriadau brys i’r ased ar ôl digwyddiadau a damweiniau
- Gwaith cyfleustodau (e.e. nwy, trydan neu ddŵr)
- Cadw arwyddion a marciau’r ffordd mewn cyflwr da
- Cynnal a chadw ffensiau’r ffiniau a rhai diogelwch
- Clirio a chynnal a chadw systemau draenio
- Clirio sbwriel a sgubo’r ffyrdd (Mae traffyrdd a ffyrdd arbennig yn unig – cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw’r ffyrdd eraill)
- Torri porfa a llystyfiant yn ymyl cyffyrdd ac mewn tiriogaethau canolog i wella gwelededd
- Cynnal a chadw signalau traffig, goleuadau stryd
- Cynnal a chadw’r gaeaf – taenu halen a chlirio eira
- Cynnal a chadw strwythurol (e.e. pontydd a thwneli)
Gwneir cyfanswm sylweddol o waith ar y rhwydwaith yn flynyddol, ond bwriedir aflonyddu’r gyrwyr cyn lleied â phosibl trwy drefnu cyfanswm sylweddol o waith i’w wneud dros nos neu ar adegau llai prysur.
Mewn nifer fach o achosion, er enghraifft cynlluniau lledaenu neu waith cynnal a chadw mawr neu ar ôl digwyddiadau, y gwelwch chi waith ar y ffyrdd yn ystod y dydd. Oherwydd bod y gwaith mor fawr neu mor brys ni ellir ei wneud dros nos neu byddai’n anniogel ac aneconomaidd i signalau a chonau gael eu casglu a’u hailosod bob dydd.
Mae yna achlysuron pan welwch chi gonau, arwyddion a chyfyngiad cyflymder mewn grym ond mae’n ymddangos nad oes neb yn gweithio. Y rheswm yn aml yw bod y gwaith yn effeithio ar rwystrau diogelwch neu'r gerbytffordd, neu efallai bod gwaith yn cael ei wneud o dan y ffordd, gan ei gwneud hi'n anniogel dros dro i ailagor y lôn neu'r lonydd dan sylw. Fel arfer darperir arwyddion i esbonio'r rheswm dros reoli traffig.