Gall gwyntoedd cryfion ar draws y bont fod yn beryglus i draffig.
Efallai y bydd angen cyfyngiadau traffig, cyfyngiadau cyflymder is a chau’r bont er mwyn sicrhau diogelwch gyrwyr. Cewch ragor o wybodaeth isod am sut rydym yn delio ag amodau tywydd gwyntog ar y bont.
Rydym yn defnyddio rhagolygon pwrpasol ac offer monitro ar y bont i helpu i fesur cyflymder y gwynt. Mae'r rhagolygon hyn yn fwy cywir na'r rhai a ddarperir yn y cyfryngau a gallant fod yn wahanol i'r hyn a adroddir.
Yn dilyn yn rhagolygon, dyma'r broses rydym yn ei ddilyn:
Gwyntoedd dros 30mya:
- cyfyngiad cyflymder o 30mya ar y bont.
Gwyntoedd dros 40mya:
- cyfyngiad cyflymder o 30mya ar y bont.
- rhoi cyfyngiadau ar y bont i feiciau modur, carafanau a beicwyr.
Gwyntoedd dros 63mya:
- cyfyngiad cyflymder o 30mya ar y bont.
- rhoi cyfyngiadau ar y bont i feiciau modur, carafanau a beicwyr.
- ddim ond ceir a faniau (sy'n deillio o geir) fydd yn gallu defnyddio'r bont.
Gwyntoedd dros 70mya:
- Byddwn yn cau'r bont yn llwyr i'r holl draffig nes bod cyflymder y gwynt wedi gostwng.
Os fydd angen cau y bont:
- Bydd Pont Menai yn cael ei defnyddio fel llwybr gwyriad.
I baratoi ar gyfer y botensial o gau’r bont yn gyfan gwbl byddwn yn cau lôn dau ar ddwy ochr y bont. Rhaid gosod y mesur rheoli traffig hwn ymlaen llaw pan fydd cyflymder y gwynt yn is er mwyn diogelwch.
Bydd arwyddion VMS yn hysbysu gyrwyr bod y bont ar gau.
Gwybodaeth ddiweddaraf
Gwiriwch X TraffigCymruG a'r dudalen Facebook Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth Traffic, y camerâu ffordd a rhybuddion traffig am y wybodaeth ddiweddaraf am y bont.