Mae'r asiantau cefnffyrdd yn rheoli, cynnal a gwella rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru. Mae'r rhwydwaith hwn yn cynnwys prif ffyrdd A, a elwir yn gefnffyrdd, a thraffyrdd.
Mae'r asiantau cefnffyrdd yn gyfrifol am 1510 cilomedr o gefnffordd, gan gynnwys chwe thwnnel ffordd a 178 cilomedr o draffordd. Mae swyddogion traffig yn patrolio llwybrau strategol allweddol ac mae stiwardiaid neu reolwyr llwybrau yn gyfrifol am ofalu am weddill y rhwydwaith.
