Mae cwmpas y Polisi Amgylcheddol hwn yn cynnwys rheoli'r gweithgareddau a wneir gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn Llandarcy, San Clêr a Wilcrick, o ran rheoli busnes a chyfleusterau, rheoli asedau, a rolau gweithrediadau cyflwyno'r rhwydwaith. Nod y polisi fydd cyd-fynd yn fras â strategaeth a pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, sy'n rhanbarth, a Llywodraeth Cymru.
Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru ac, o ganlyniad, mae'n gyfrifol am gyflenwi gwasanaethau yn unol â'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Ystad y Cefnffyrdd (Cynllun Datblygu Amgylcheddol) a Strategaeth Cludiant Cymru "Cysylltu'r Genedl”. Bydd yr asiantaeth yn parhau i wella'r perfformiad amgylcheddol trwy adolygu'n flynyddol a gosod targedau er mwyn bodloni amcanion amgylcheddol. Y polisi yw adolygu'r holl weithrediadau er mwyn lleihau pob math o wastraff yn systematig. Ceir arweiniad gweithredol sy'n effeithio ar faterion amgylcheddol, sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar gomisiynu gwaith, yn Llawlyfr Cynnal a Chadw Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd.
Mae'r System Rheolaeth Amgylcheddol yn mynd i'r afael ag effaith ACDC ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig a systemau sgrinio amgylcheddol sy'n annog ystyried cyfleoedd ar gyfer gwella. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru a'r Amcanion Allweddol yn Atodiad 1 o'r wybodaeth am wasanaethau yng Nghytundeb 2 Llywodraeth Cymru.
Mae Uwch-dîm rheoli ACDC yn ymrwymedig i ddiogelu'r amgylchedd, gan gynnwys nodi holl ofynion cyfreithiol ynglŷn â'r amgylchedd a chydymffurfio â hwy ynghyd â gofynion eraill y mae'r sefydliad yn tanysgrifio iddynt sy'n ymwneud â'i effaith amgylcheddol. Fel gyda phob ymrwymiad, bydd yr adnoddau angenrheidiol yn cael eu dyrannu i ddatblygu polisïau, gweithdrefnau a mesurau ymarferol a'u rhoi ar waith i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cyflawni.
Caiff y polisi ei roi ar waith trwy strwythurau a chyfrifoldebau sefydliadol er mwyn sicrhau bod:
- Yr holl ofynion amgylcheddol perthnasol yn cael eu bodloni;
- Adnoddau digonol ar gael i sicrhau cydymffurfiad; a bod y
- Cynnydd yn cael ei fonitro.
Mae gan Bennaeth ACDC a'r Uwch-dîm Rheoli'r cyfrifoldeb pennaf dros ddilyn y polisi amgylcheddol a pherfformiad gan gynnwys cydymffurfio â gofynion cyfreithiol amgylcheddol.
Mae'r polisi amgylcheddol yn rhwymo ACDC i:
Gyfathrebu'r Neges
- I sicrhau bod holl weithwyr ACDC wedi cael eu hyfforddi i ddeall eu cyfrifoldebau a'r System Rheoli Amgylcheddol.
- I sicrhau bod yr holl bartneriaid a'r cyflenwyr yn ymwybodol o bolisïau ACDC ynglŷn â rheoli amgylcheddol.
- I sicrhau y cynyddir ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Cynnal a gorfodi gofynion cyfreithiol ac amcanion strategol
- Atal llygredd o'r gweithgareddau y mae'n gyfrifol amdanynt.
- Diogelu bioamrywiaeth safleoedd â statws DoDdGa dynodedig neu'n cynnwys rhywogaethau a warchodir a'r amgylchedd yn gyffredinol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol amgylcheddol perthnasol ac unrhyw ofynion eraill mae'r sefydliad yn ymrwymedig iddynt sy'n ymwneud â'i agweddau amgylcheddol.
Cynyddu safonau
- Gwella'i berfformiad amgylcheddol yn barhaus trwy weithredu system rheoli amgylcheddol ISO 14001.
- Dogfennu, gweithredu a chynnal system rheoli amgylcheddol a gaiff ei hardystio gan gorff cofrestru trydydd parti UKAS.
- Adolygu a gosod ei amcanion a'i dargedau amgylcheddol ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, neu phan gynyddir yr ymwybyddiaeth am yr ardaloedd y mae angen eu gwella.
Nod gwasanaethau ACDC yw comisiynu Briffiau Dylunio a Gorchmynion Tasg sy'n arwain at gynnal a chadw a gwella'r System Gefnffyrdd. Mae prosesau allweddol yn rheoli damweiniau ac argyfyngau, archwiliadau/adroddiadau am ddiffygion, archwiliadau strwythurol cylchol, traffig, peirianneg sifil a rhyddhau prosiectau gwariant cyfalaf gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r ymagwedd gyffredinol yn annog mabwysiadu arferion amgylcheddol cynaliadwy i gyflwyno busnes cynaliadwy.